Skip to main content

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Mai 2021

Crëwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cafodd yr etholiadau cyntaf i ddewis Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eu cynnal ar 15 Tachwedd 2012. Cafodd rhagor o etholiadau eu cynnal ym mis Mai 2016 a bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ar Mai 2021.
Os does dim modd i chi fynd i’r orsaf bleidleisio yn dilyn prawf Covid-19 positif, neu os oes gofyn i chi hunanynysu yn dilyn cyngor gan y Llywodraeth neu’r Gwasanaeth Iechyd, mae modd i chi benodi dirprwy ar fyr rybudd i bleidleisio ar eich rhan. Cliciwch “yma” i lawrlwytho ffurflen gais – gallwch wneud hyn hyd at 5pm ar 6 Mai.

I fod yn gymwys   i bleidleisio yn Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rhaid i chi fod:

  •   Wedi'ch cofrestru i bleidleisio Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru
  •   Yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
  •   Yn Ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu'r UE

Mae etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael eu cyfuno ag etholiadau Senedd Cymru sy'n cael eu cynnal ar yr un diwrnod.

Nodwch: Fydd pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys ddim yn gymwys i bleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Bydd yr etholiadau nesaf i ddewis Comisiynwyr Heddlu a Throseddu dydd Iau 7 Mai 2021. I gael rhagor o wybodaeth fanwl am yr etholiad yma a'r amserlen gysylltiedig, ewch i Wefan Swyddog Canlyniadau'r ardal heddlu Bro Morgannwg.

Bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal mewn 40 ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Llundain a Manceinion). Mae gan bob ardal Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. 

Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru ac mae pob ardal yn ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Dyma'r pedair ardal: 

  • Dyfed Powys
  • Gwent
  • Gogledd Cymru
  • De Cymru

 Mae ardal Heddlu De Cymru yn cynnwys 7 ardal bleidleisio: 

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerdydd
  • Merthyr Tudful
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe 
  • Bro Morgannwg 

 Mae Swyddog Canlyniadau Lleol wedi'i benodi ar gyfer pob un o'r ardaloedd pleidleisio uchod.

 Ms Debbie Marles (Cyngor Bro Morgannwg) yw'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer ardal Heddlu De Cymru ar gyfer etholiadau mis Mai. Mae hi'n gyfrifol am drefnu'r etholiad ac mae ei dyletswyddau'n cynnwys:  

  • cysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn Ardal Heddlu De Cymru
  • rhoi rhybudd o'r Etholiad
  • y weithdrefn enwebu
  • annog cyfranogiad
  • sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion o ran cynnwys cyfeiriadau etholiad yr ymgeiswyr a’r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno’r cyfeiriadau hynny
  • coladu cyfansymiau lleol a chyfrifo'r canlyniad
  • cyhoeddi'r canlyniad

 Mae'r Swyddog Canlyniadau Lleol (Andrew Wilkins) ar gyfer ardal Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol o fewn ardal bleidleisio'r Cyngor am:

  • sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol 
  • darpariaethau gorsafoedd pleidleisio 
  • argraffu papurau pleidleisio
  • cynnal y bleidlais
  • penodi staff gorsaf bleidleisio 
  • rheoli'r broses bleidleisio drwy'r post
  • dilysu a chyfrif y pleidleisiau yn eu hardal bleidleisio
  • trosglwyddo'r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu

 Rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am:

  • Dal yr Heddlu i gyfrif
  • Penodi Prif Gwnstabliaid a'u diswyddo (os oes angen)
  • Pennu cyllidebau'r heddlu
  • Pennu faint o Dreth y Cyngor bydd pobl yn ei dalu tuag at blismona
  • Nodi blaenoriaethau plismona ar gyfer yr ardal leol
  • Goruchwylio sut yr eir i'r afael â throseddu yn yr ardal a gosod nodau i sicrhau bod yr heddlu'n darparu gwasanaeth da
  • Cyfarfod ac ymgynghori â'r cyhoedd yn rheolaidd, i wrando ar eu barn ar blismona
  • Llunio cynllun heddlu a throseddu sy'n nodi blaenoriaethau plismona lleol
  • Penderfynu sut bydd y gyllideb yn cael ei gwario.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Comisiwn Heddlu a Throseddu ewch i www.choosemypcc.org.uk/cy/