Skip to main content

Adolygiad Cymunedau Rhondda Cynon Taf 2024

Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal Adolygiad Cymunedau mewn perthynas ag ardal Prif Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei Argymhellion Terfynol ar gyfer trefniadau cymunedau'r dyfodol yn Rhondda Cynon Taf ac wedi'u cyflwyno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar 7 Ebrill 2025.
Bydd y Comisiwn yn penderfynu os ydy am gyflwyno Gorchymyn yn dod â'r argymhellion yn yr adroddiad i rym, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Mae Adroddiad yr Argymhellion Terfynol yn cynnwys pob argymhelliad gan y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Lle fo newidiadau i'r trefniadau presennol, mae disgrifiad o'r newid, y sylwadau mae wedi'u derbyn, y rhesymau dros unrhyw newid a map o'r argymhellion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

Hoffai'r Cyngor ddefnyddio'r cyfle yma i ddiolch i bawb oedd wedi cymryd yr amser i nodi sylwadau.

Os oes gyda chi farn mewn perthynas â'r Argymhellion Terfynol, dylai'r rhain gael eu hanfon at Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gan ddefnyddio'r manylion isod:

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
4ydd Llawr
Adeiladau'r Llywodraeth
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu drwy e-bostio: ymgynghoriadau@cdffc.llyw.cymru

Cliciwch yma i weld Canllawiau Arolygon Cymunedol y Comisiwn sydd wedi'u diweddaru a Chanllawiau Hawdd eu Darllen.


Hoffech chi wybod rhagor am gymunedau? Gwyliwch y fideo yma.

Mae modd bwrw golwg ar, a lawrlwytho dogfennau mewn perthynas â'r Adolygiad, gan gynnwys adroddiadau, mapiau a gwybodaeth ategol arall o'r dudalen Amserlen a Dogfennau.

Single-integrated-plan
Bwriwch olwg ar yr amserlen adolygu a'r dogfennau ategol.