Skip to main content
3

Cynllun Gweithlu

Bydd Cynllun Gweithlu'r Cyngor yn cefnogi'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau, fel sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor 2020-24, 'Gwneud Gwahaniaeth'. Bydd y Cynllun Gweithlu yn sicrhau bod y Cyngor yn denu, yn cadw, yn datblygu ac yn cefnogi staff a rheolwyr i barhau i gyflwyno gwasanaethau rhagorol, bodloni cyfleoedd ac wynebu heriau, nawr ac yn y dyfodol.

I gyrraedd y nod yma, bydd rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y bobl iawn, gyda'r sgiliau priodol, yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Mae Cynllun Gweithlu'r Cyngor hefyd yn ymgorffori gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i gyflawni nodau llesiant cenedlaethol a Phum Ffordd o Weithio'r gwasanaethau cyhoeddus.