Rydyn ni wedi derbyn nifer o negeseuon yn gofyn a fyddwn ni'n cynnalachlysur Rasys Nos Galan eleni oherwydd pandemig Covid-19. Er bod 5 mistan Nos Galan, byddai'r gwaith cynllunio ar gyfer Rasys Nos Galan fel arferyn dod i ben erbyn yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r cyfnod cofrestru'ndechrau ym mis Medi, sydd bellach ddim ond 5 wythnos i ffwrdd.
Bydd Pwyllgor trefnu Nos Galan yn cyfarfod o bell dros yr wythnosaunesaf i adolygu'r sefyllfa ddiweddaraf, ac mae'n debygol y caiffpenderfyniad terfynol ei wneud o ran cynnal neu ganslo'r achlysur erbyncanol mis Medi. Bydd hyn yn dibynnu ar gyngor gan Iechyd CyhoeddusCymru. Serch hynny, rhaid inni eich sicrhau mai iechyd a lles ein trigoliona'n hymwelwyr yw'r flaenoriaeth i ni. Oherwydd hynny, mae'n debyg iawnna fyddwn ni'n cynnal yr achlysur eleni. Rydyn ni'n deall y byddwch chi,fel Aelodau'r Pwyllgor, yn siomedig iawn os caiff yr achlysur ei ganslo.Serch hynny, rhaid i ni sicrhau bod ein penderfyniad terfynol yn cadw eintrigolion a'n hymwelwyr yn iach ac yn ddiogel.
Y Cynghorydd Andrew MorganArweinydd y Cyngor
Y Cynghorydd Ann CrimmingsCadeirydd Pwyllgor Nos Galan