Yn y sesiwn yma byddwn ni'n edrych ar ‘y 5 ffordd at les’ a phwysigrwydd y dulliau yma, yn ogystal ag elfennau ychwanegol o ran lles, gan gynnwys cwsg, deiet, ymarfer corff a materion ariannol. Byddwn ni'n trafod pam mae'r rhain mor bwysig i'n lles yn gyffredinol, a sut y mae modd i ni eu gwella nhw. Yna byddwn ni'n trafod ac yn rhannu adnoddau sydd ar gael i staff i helpu a chynnal eu lles.
Mae lles yn fater goddrychol ac yn unigryw i bawb
. Mae pob rhan o'n bywydau ni'n dylanwadu arno, gan gynnwys perthnasoedd, ein hamgylchedd, materion ariannol, cwsg, ymarfer corff, a llawer o ffactorau eraill.
Mae lles yn bwysig gan ei fod e'n gysylltiedig â boddhad bywyd a phan mae pobl yn teimlo boddhad yn eu bywyd, byddan nhw’n gwneud y gorau o bob dydd ac yn dylanwadu'n gadarnhaol ar y rhai o'u cwmpas.
Yn y sesiwn yma byddwn ni'n edrych ar ‘y 5 ffordd at les’ a phwysigrwydd y dulliau yma, yn ogystal ag elfennau ychwanegol o ran lles, gan gynnwys cwsg, deiet, ymarfer corff a materion ariannol.
Byddwn ni'n trafod pam mae'r rhain mor bwysig i'n lles yn gyffredinol, a sut y mae modd i ni eu gwella nhw. Yna byddwn ni'n trafod ac yn rhannu adnoddau sydd ar gael i staff i helpu a chynnal eu lles.
Mae croeso i bawb i'r sesiwn. Sesiwn gwbl gyfrinachol fydd hi a fyddwn ni ddim yn ei recordio.
Hoffech chi dderbyn yr hyfforddiant yma drwy gyfrwng y Gymraeg? Hoffwn / Na Hoffwn
Mae angen o leiaf 6 person i gymryd rhan ym mhob cwrs ac mae hyn yn berthnasol i bob cwrs, waeth beth yw’r dewis iaith. Yn anffodus, os bydd llai na 6 o bobl, fydd y cwrs ddim yn rhedeg gan ei bod hi'n rhy ddrud i'w gynnal o dan y fath amgylchiadau. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd rhoi digon o rybudd os na fyddwch chi'n gallu dod i ryw gwrs penodol rydych chi wedi cadw lle ar ei gyfer (5 diwrnod fan hwyraf), er mwyn inni benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen â chynnal y cwrs neu beidio.