Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron.
Canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, gyda dros 55,000 o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd bob blwyddyn.
Mae gofalu am eich bronnau'n bwysig i'ch helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau yn edrychiad a theimlad eich bronnau. Gall hyn wedyn helpu gyda chanfod ac atal canser yn gynnar. Mae modd gweld y pamffled Gofalu am eich Bronnau yma, sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i wirio'ch bronnau a'r hyn y dylech fod yn chwilio amdano.
Gall canser y fron hefyd effeithio ar ddynion, ac yn aml caiff ei ganfod yn ddiweddarach mewn dynion nag mewn menywod. Mae modd gweld mwy o wybodaeth am sut y gall dynion wirio eu hunain yn ogystal â sut y gallant leihau eu risg o ddatblygu'r clefyd ar wefan Breast Cancer UK.
Mae gan Breast Cancer UK wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pobl drawsryweddol hefyd, gan gynnwys gwybodaeth am lefel risg a sgrinio.
Yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, bydd Diwrnod Gwisgo Pinc Breast Cancer Now yn cael ei gynnal ar 18 Hydref. Dyma un o'r digwyddiadau codi arian mwyaf yn y DU ac mae wedi codi miliynau o bunnoedd i elusen canser y fron. I gymryd rhan, llenwch y ffurflen gofrestru yma a gwisgwch binc!
|