Skip to main content

Grwpiau Cymuned y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn ein bwrdeistref sirol.

Mae'r grwpiau cymuned bywiog yma'n darparu gofod croesawgar i drigolion RhCT gysylltu ag unigolion o'r un anian, cymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon a chael mynediad at gymorth hanfodol pan fo angen. Mae ein Swyddog Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog ymroddedig yn cymryd rhan weithredol yn y grwpiau yma, gan gydweithio'n agos ag arweinwyr ac aelodau'r gymuned i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Gyda’n gilydd, rydyn ni'n ymdrechu i gael effaith gadarnhaol a meithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch ymhlith ein Cymuned Lluoedd Arfog werthfawr.

Grŵp Cyn-filwyr Cwm Cynon

Mae Grŵp Cyn-filwyr Cwm Cynon yn sefydliad cymunedol sy'n cefnogi cyn-filwyr. Mae'r grŵp yn cwrdd bob dydd Llun yng Nghanolfan Gymunedol y Darran Las yn Aberpennar am 10am. Mae croeso i bob cyn-filwr fynychu ac mae parcio am ddim ar gael. Mae diodydd poeth a rholiau brecwast ar gael i bob aelod. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07960411039.

Grŵp Cyn-filwyr Taf Elái

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf Elái yn sefydliad cymuned croesawgar sydd wedi ymrwymo i gefnogi a meithrin cyfeillgarwch ymhlith cyn-filwyr yn ardal Taf Elái. Mae'r grŵp yn cwrdd rhwng 9.30am a 11.30am yng Nghanolfan Cymuned Rhydfelen. Mae diodydd poeth a rholiau brecwast ar gael i'r sawl sy'n mynychu, ac mae parcio am ddim ar y safle. Yn ogystal â hynny, mae cymorth ar gael gan wasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Cyngor RhCT i'r rhai sydd ei angen. Anogir pob aelod o gymuned y Lluoedd Arfog i ymuno â’r grŵp cynhwysol yma. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07913355911.

Valley Veterans

Elusen filwrol a arweinir gan gyn-filwyr yw Valley Veterans sydd wedi’i lleoli yn Nhon Pentre. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl fel grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer Cyn-filwyr ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Mae Valley Veterans bellach yn ganolbwynt bywiog gyda mwy na 140 o gyfranogwyr gweithredol. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys clwb brecwast wythnosol a gynhelir bob dydd Iau rhwng 10am a 12pm yng Nghanolfan Gymuned Ton Pentre sy'n denu hyd at 60 o gyn-filwyr bob wythnos. Yn ogystal â hynny, maen nhw'n cynnig gweithgareddau dyddiol â cheffylau yn yr iard gyfagos, gyda hyd at ddwsin o gyfranogwyr rheolaidd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07733896128.

https://www.valleyveterans.org/

Canolfan Cymorth i Gyn-filwyr Woody's Lodge:

Mae’r ganolfan yma ar agor bob dydd Sadwrn o 10am tan 12pm yn y Pafiliwn Bowlio ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Mae croeso i bob aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog ymuno â ni. Mae Woody's Lodge, a sefydlwyd er cof am y Môr-filwr Brenhinol, Paul 'Woody' Woodland, yn darparu canolbwynt cymdeithasol lle gall cyn-filwyr dderbyn cymorth arbenigol, cyngor, a chysylltu â ffrindiau a theulu. Y weledigaeth yw creu man cyfarfod deniadol i’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’r Gwasanaethau Brys. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01446 781792.

Cymorth y Lluoedd Arfog | Woody's Lodge (woodyslodge.org)

Canolfan i Gyn-filwyr LHDTC+ Yn Falch o fod wedi Gwasanaethu

Mae’r ganolfan gymorth yma ym Mhontypridd yn cynnig lle diogel i gyn-filwyr LHDTC+ gysylltu, sgwrsio, a mwynhau diodydd poeth a lluniaeth ysgafn. Croesewir aelodau LHDTC+ unwaith ar ddydd Llun bob yn ail wythnos ym Mharc Coffa Ynysangharad rhwng 12pm a 2pm. Yn nodedig, cymerodd aelodau’r ganolfan ran weithredol yn adolygiad yr Arglwydd Etherton, a archwiliodd i'r driniaeth a gafodd cyn-filwyr LHDTC+ yn ystod eu gwasanaeth milwrol. Yn ogystal â hynny, mae'r grŵp yn falch o ymuno â gorymdaith Pride Cymru bob blwyddyn, gan sefyll ochr yn ochr â Fighting with Pride. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07747485619.

Cinio Misol am ddim i Gymuned y Lluoedd Arfog

Mae carfan Lluoedd Arfog y Cyngor mewn partneriaeth â Lighthouse Project Tonyrefail yn cynnal cinio misol am ddim i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog. Cynhelir yr achlysur croesawgar yma yng Nghanolfan Gymuned Tonyrefail ar drydydd dydd Iau bob mis, rhwng 1pm a 3pm. Mae croeso i bob aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog ymuno â ni. Mae'r fwydlen yn newid yn fisol ac yn cynnig opsiynau hyfryd fel pysgod a sglodion, reis, cyrri a bara naan ynghyd ag amrywiaeth o bwdinau. Yn ogystal â hynny, mae Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog RhCT ar gael i roi cyngor a chymorth. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07503189746