Mae Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn rhwymedigaeth gyfreithiol ar rai cyrff cyhoeddus i roi sylw priodol i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog wrth arfer swyddogaethau penodol.
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried y cyfrifoldebau a’r aberth unigryw a wneir gan aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, gyda’r nod o fynd i’r afael ag anfanteision posibl y gallen nhw eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau lleol.
Os ydych chi'n cynrychioli corff cyhoeddus a hoffech chi drefnu sesiynau Ymwybyddiaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi'u teilwra ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â charfan y Lluoedd Arfog Cyngor Rhondda Cynon Taf drwy e-bostio: lluoeddarfog@rctcbc.gov.uk. Byddan nhw'n barod i'ch helpu.
Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ymrwymiad gan lywodraeth y DU i sicrhau bod aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog (gan gynnwys cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu, a’u teuluoedd) yn cael eu trin yn deg a ddim dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. Nod y cyfamod yw darparu cymorth mewn meysydd fel tai, gofal iechyd ac addysg. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i roi sylw priodol i egwyddorion y cyfamod wrth arfer swyddogaethau penodol.
Mae egwyddorion allweddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cynnwys:
- Dim Anfantais: Sicrhau nad yw aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth.
- Ystyriaeth arbennig: Cydnabod yr amgylchiadau unigryw a wynebir gan bersonél y lluoedd arfog, cyn-filwyr, a’u teuluoedd.
- Mynediad at wasanaethau: Darparu mynediad teg i ofal iechyd, tai, addysg a chyfleoedd cyflogaeth.
- Cefnogaeth a chydnabyddiaeth: Cynnig cefnogaeth i gyn-filwyr a hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u cyfraniadau.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cwmpasu gwasanaethau amrywiol, gan gynnwys:
- Gofal iechyd: Sicrhau mynediad i wasanaethau meddygol ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd.
- Tai: Darparu cefnogaeth gydag anghenion tai.
- Addysg: Hwyluso cyfleoedd addysgol i bersonél y lluoedd arfog a'u plant.
- Cyflogaeth: Hyrwyddo arferion cyflogaeth teg i gyn-filwyr.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn hanfodol oherwydd ei fod yn sicrhau bod aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog - fel cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu, a’u teuluoedd - yn cael eu trin yn deg ac nad ydyn nhw dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. Mae'n hyrwyddo mynediad i wasanaethau fel gofal iechyd, tai, addysg a chyfleoedd cyflogaeth. Drwy gydnabod eu haberth a’u hamgylchiadau unigryw, nod y cyfamod yw creu amgylchedd mwy cefnogol i’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y fyddin.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog neu’r Ddyletswydd Sylw Priodol, mae croeso i chi anfon e-bost: lluoeddarfog@rctcbc.gov.uk