Bwriwch olwg ar yr amrywiaeth o sefydliadau elusennol sy'n cynnig cymorth a chyngor:
Porth y Cyn-filwyr
Porth y Cyn-filwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd sy’n ceisio cymorth. Mae'r porth ar gael 24/7 ac mae'n cynnig cymorth ar draws meysydd amrywiol gan gynnwys tai, lles meddyliol a chyllid. Mae modd cysylltu dros y ffôn, blwch sgwrsio, neges destun neu e-bost. Yn ogystal â hynny, mae modd i Borth y Cyn-filwyr eich cyfeirio'n uniongyrchol at eu Partneriaid Atgyfeirio.
I gael cyngor a chefnogaeth gan Porth y Cyn-filwyr, ffoniwch 0808 802 1212 - mae swyddogion ymgynghori ar gael 24/7 i ateb eich galwad.
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn darparu cymorth hanfodol i aelodau'r Llynges Frenhinol a'r Fyddin Brydeinig.
Mathau o gymorth
Arian a Chyflogaeth: Cymorth gyda phwysau ariannol a dychwelyd i fywyd yn ddinesydd.
Lles Corfforol a Meddyliol: Rhaglenni adsefydlu a chelf arbenigol ar gyfer lles cyffredinol.
Cysylltiadau Cymunedol Lleol: Cefnogaeth hygyrch wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.
Cefnogaeth Tramor: Cymorth gan garfan ymroddedig sy'n barod i gynorthwyo ble bynnag ydych chi.
Grantiau Costau Byw: Os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau hanfodol (fel ynni, cyfleustodau, neu dreuliau), efallai eich bod chi'n gymwys i dderbyn cymorth drwy'r Grantiau Costau Byw newydd ac estynedig.
I gael rhagor o wybodaeth, mynnwch sgwrs ar-lein ar wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol neu gysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy e-bost:
Rhif ffôn: 0808 802 8080
E-bost: info@britishlegion.org.uk (ar gael rhwng 8am ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos)
Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)
Mae SSAFA, elusen y Lluoedd Arfog, a elwir hefyd yn Gymdeithas Teuluoedd Milwyr, Morwyr ac Awyrenwyr yn sefydliad yn y DU sy'n darparu cymorth gydol oes i ddynion a menywod sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, a'u teuluoedd neu ddibynyddion o'r Lluoedd Arfog Prydeinig.
Sut maen nhw'n helpu:
Ymuno â Civvy Street: Cefnogi'r broses bontio ar gyfer y rhai sy'n gadael y fyddin.
Teuluoedd Milwrol: Darparu gwasanaethau lles i aelodau teulu cymuned y Lluoedd Arfog.
Cefnogi Cyn-filwyr Hŷn: Cynnig cymorth corfforol ac emosiynol i gyn-filwyr hŷn.
Lles a Budd-daliadau: Darparu gofal cymdeithasol, cyngor a thai i gymuned y Lluoedd Arfog.
Cymorth Anabledd: Cynorthwyo personél sy'n gwasanaethu, eu teuluoedd a chyn-filwyr gyda materion yn ymwneud ag anabledd.
Lles Meddyliol: Helpu i ymdopi â phrofedigaeth, anaf a straen.
Gwasanaethau Gurkha: Gwasanaethau iaith Nepali arbenigol ar gyfer aelodau Brigâd y Gurkhas a'u perthnasau.
Os oes angen cymorth arnoch chi, mae modd cysylltu â Forcesline trwy'r llinell gymorth gyfrinachol am ddim drwy ffonio 0800 260 6767 (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm).
Help for Heroes
Help for Heroes yw prif elusen y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn y DU. Maen nhw'n darparu cefnogaeth gydol oes i Bersonél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Milwrol sydd wedi dioddef anafiadau, salwch neu glwyfau tra'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain. Mae eu cymorth cynhwysfawr yn cynnwys cymorth iechyd corfforol a meddyliol, cymorth ariannol, gwasanaethau cymdeithasol ac anghenion lles. Boed hynny’n helpu o ran symudedd, tai, neu ddim ond yn cynnig clust i wrando, mae Help for Heroes wedi ymrwymo i rymuso cyn-filwyr a’u teuluoedd ar eu taith i lesiant.
Os ydych chi'n gyn-filwr, yn aelod sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu os oeddech chi'n gweithio ochr yn ochr â byddin y DU, neu’n berthynas agos i unrhyw un o'r uchod, mae Help for Heroes yno i roi cymorth i chi.
Mae hefyd defnyddio'r ffurflen ar-lein i atgyfeirio rhywun sydd angen cymorth neu ofyn am alwad yn ôl drwy fynd i: Cais am alwad yn ôl | Help For Heroes
Fighting With Pride
Mae Fighting With Pride yn elusen filwrol sy’n cefnogi iechyd a lles cyn-filwyr LHDT+, personél y lluoedd arfog, a’u teuluoedd. Mae’r elusen yn canolbwyntio’n benodol ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y gwaharddiad ar bersonél LHDT+ i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn Ionawr 2001. Nod yr elusen yw cysylltu’r cyn-filwyr hyn â sefydliadau ac elusennau perthnasol i’w helpu i wella yn sgil effeithiau’r gwaharddiad hanesyddol.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: Fightwithpride.org.uk
The Poppy Factory
Mae The Poppy Factory yn elusen gyflogaeth sy’n cefnogi cyn-filwyr sydd â rhwystrau iechyd sylweddol - boed yn feddyliol ac yn gorfforol - wrth drosglwyddo i fywyd yn ddinasyddion ar ôl gadael y Lluoedd Arfog. Cenhadaeth yr elusen yw helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon, gan oresgyn heriau fel cyflyrau iechyd meddwl, digartrefedd a chaethiwed. Mae'r elusen yn darparu cymorth un-i-un gan gynnwys ysgrifennu CV, cymorth chwilio am swydd, paratoi ar gyfer cyfweliad a chymorth yn y gwaith. Os ydych chi'n gyn-filwr sy'n ceisio cymorth cyflogaeth, mae modd cofrestru trwy'r ffurflen ar-lein.