Bwriwch olwg ar yr ystod o gymorth iechyd a lles sydd ar gael i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog:
GIG Cymru i Gyn-filwyr
GIG Cymru i Gyn-filwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyn-filwyr Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi sy’n byw yng Nghymru sy’n profi problemau iechyd meddwl cyffredin sy’n gysylltiedig â’u gyrfaoedd yn y Lluoedd Arfog. Maen nhw'n cynnig gwasanaethau arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Os ydych chi'n gyn-filwr sy'n ceisio gwybodaeth am broblemau iechyd meddwl, mae modd dod o hyd i ragor o fanylion ar eu gwefan. Yn ogystal â hynny, mae pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru wedi penodi clinigwyr profiadol fel Therapyddion i Gyn-filwyr i ddarparu cymorth a derbyn atgyfeiriadau gan staff gofal iechyd, meddygon teulu, elusennau cyn-filwyr, a hunanatgyfeiriadau gan gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: https://www.veteranswales.co.uk/
Elusen Icarus
Mae Elusen Icarus yn elusen triniaeth iechyd meddwl a arweinir gan gyn-filwyr sy'n darparu therapi, cwnsela, a chymorth ar gyfer anawsterau sy'n deillio o drawma, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a chyflyrau cysylltiedig. Maen nhw'n cynnig cymorth iechyd meddwl am ddim ac ar-lein i gyn-filwyr o fewn 24 awr ar ôl cysylltu. Mae eu gwasanaethau yn cynnwys triniaeth bwrpasol, hyblyg heb restrau aros. Wedi’i sefydlu gan gyn-filwyr, nod Icarus yw gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer y gymuned cyn-filwyr.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: ELUSEN ICARUS | IECHYD MEDDWL CYN-FILWYR | TRINIAETH AR-LEIN
Combat Stress
Combat Stress yw prif elusen iechyd meddwl cyn-filwyr y DU, sy’n darparu triniaeth glinigol a chefnogaeth i gyn-filwyr o’r Lluoedd Arfog Prydeinig sy’n wynebu problemau iechyd meddwl cymhleth. Mae'r materion yma'n cynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD), pryder ac iselder. Mae Combat Stress yn cynnig llinell gymorth 24/7, gwasanaethau dros neges destun ac e-bost i gynorthwyo cyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae gwaith yr elusen yn newid bywydau ac yn achub bywydau, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi gwasanaethu mewn rhyfeloedd a gwasanaethau amrywiol.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: Gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr | Combat Stress
Fighting with Pride
Mae Fighting With Pride yn elusen filwrol sy’n cefnogi iechyd a lles cyn-filwyr, personél y lluoedd arfog, a’u teuluoedd sy'n aelodau o'r gymuned LHDT+. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y gwaharddiad ar bersonél LHDT+ i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn Ionawr 2001. Nod yr elusen yw cysylltu’r cyn-filwyr hyn â sefydliadau ac elusennau perthnasol i’w helpu i wella o effeithiau’r gwaharddiad hanesyddol.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: Fightwithpride.org.uk
Walking With The Wounded
Mae Walking With The Wounded (WWTW) yn elusen yn y DU sy’n cefnogi cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n cael trafferth ar ôl gwasanaeth milwrol. Dyma beth maen nhw'n ei wneud:
Cymorth Cyflogaeth: Helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i swyddi addas a chynaliadwy, gan fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Mae WWTW yn darparu cymorth iechyd meddwl ymarferol i gyn-filwyr a’u teuluoedd.
Cydlynu Gofal: Mae WWTW yn cynnig cydgysylltu gofal unigol i gynorthwyo cyn-filwyr i ailadeiladu eu bywydau.
I weld rhagor o fanylion, ewch i: Elusen Cyn-filwyr Milwrol y DU | Walking With The Wounded | Walking With The Wounded
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag oedolion sydd angen gofal, cymorth neu warchodaeth i gael byw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Maen nhw'n darparu gwasanaethau megis gwybodaeth a chyngor, gofal yn y cartref, addasiadau hygyrchedd, gweithgareddau canolfannau dydd, a diogelu oedolion agored i niwed. Os oes angen cymorth arnoch chi, mae modd cysylltu â nhw'n uniongyrchol neu drwy weithiwr iechyd proffesiynol.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch garfan Ymateb Brys y Cyngor ar: 01443 425003.
Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
Mae Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru (NERS) yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi cyfle i'r rheiny sydd ddim yn heini ac sydd â chyflwr iechyd i ymarfer corff yn ddiogel. Nod NERS yw cyflwyno ymarfer corff yn raddol a'i wneud yn bleserus yn rhan o'ch trefn ddyddiol. I ymuno â NERS, rhaid i chi gael eich atgyfeirio gan feddyg teulu, nyrs neu ffisiotherapydd. Ar ôl cael eich atgyfeirio, byddwch chi'n mynychu sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth mewn canolfannau hamdden dynodedig. Ar ôl cwblhau NERS, mae modd parhau i fod yn gorfforol egnïol mewn cyfleusterau hamdden eraill yn yr ardal.