Skip to main content

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid difrifol gan y genedl, yn ymrwymiad i sicrhau bod y sawl sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ynghyd â’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae’n cydnabod manteision dwys gwasanaethu, gan gynnwys bywyd llawn her, antur, a’r cyfle i ennill sgiliau newydd wrth ddatblygu cydnerthedd. Mae gwasanaethu hefyd yn rhoi cyfle i deithio'r byd tra'n diogelu ac amddiffyn eich gwlad.

Fodd bynnag, mae gyrfa yn y Lluoedd Arfog ymhell o fod yn hawdd. Mae pobl sy'n gwasanaethu yn cyflawni nifer o rwymedigaethau ac yn aberthu'n sylweddol i gyflawni eu dyletswyddau a sicrhau ein diogelwch. Gall straen a phwysau'r swydd adael effaith barhaol, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddychwelyd ôl i fywyd yn ddinasyddion.

Mae aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn aml yn byw bywydau sydd ddim yn cyd-fynd â'r hyn sy'n cael ei ystyried yn 'arferol'. Mae eu profiadau wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a phreifat o ddydd i ddydd yn y DU yn wahanol i brofiadau’r boblogaeth yn gyffredinol. Boed hynny oherwydd bod yn anghyfarwydd â bywyd sifil neu adleoliadau cyson ar draws y wlad, gall cyrchu nwyddau a gwasanaethau fod yn heriol i bersonél y Lluoedd Arfog.

Dyma'n union pam bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn bodoli. Mae’r cyfamod yn cynrychioli addewid ac ymrwymiad gan y genedl i sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ynghyd â’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae'n sicrhau nad ydyn nhw dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. At y perwyl hynny, mae’r Cyfamod yn cydnabod yr aberth y maen nhw'n ei wneud ar ein rhan ac yn amlygu'r ddyled sydd arnyn nhw iddyn nhw.

Ymrwymiad Rhondda Cynon Taf i Gymuned y Lluoedd Arfog

Mae gan Rondda Cynon Taf hanes cyfoethog o anrhydeddu a gwerthfawrogi ei Lluoedd Arfog ac aelodau ddoe a heddiw. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn enghraifft o'r ymrwymiad yma, gan gyd-fynd yn ddi-dor ag amcanion y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog ymroddedig.

Mae'r Cyngor yn falch o fod yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi'r Cyfamod sy'n gweithredu fel datganiad gwirfoddol o gefnogaeth rhwng cymuned sifil Rhondda Cynon Taf a Chymuned y Lluoedd Arfog sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n symbol o'r parch deublyg a rennir ymhlith y Cyngor, ei asiantaethau partner, cymunedau lleol a Phersonél uchel eu parch y Lluoedd Arfog (y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'r rhai sydd wedi ymddeol) ynghyd â'u teuluoedd.

Llofnodi'r Cyfamod

Gall sefydliadau ddewis llofnodi addewid gwirfoddol er mwyn dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog ac i egwyddorion y Cyfamod. Mae croeso i bob sefydliad – cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, a bach, canolig neu fawr – lofnodi’r Cyfamod.

I gael arweiniad pellach ar lofnodi’r Cyfamod, eich addewid neu’r broses, ewch i: Llofnodwch y Cyfamod - Cyfamod y Lluoedd Arfog neu e-bostio afovenant@rfca.mod.uk.