Mae modd i drigolion sydd â diddordeb mewn garddio fwynhau'r arlwy yng Nghanolfan Arddio Arbenigol a Siop Goffi Maesnewydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Y Ganolfan Arddio
Mae gyda ni ystod eang o hadau, planhigion, prysglwyni, ffrwythau, llysiau, perlysiau, planhigion winwns, planhigion tatws, compost, rhisgl, bagiau pridd ar gyfer plannu, offer gardd, bwyd planhigion, coed ac amrywiaeth o botiau awyr agored. Hefyd, anrhegion wedi'u gwneud â llaw yn y siop sydd at ddant bob cwsmer.
Mae ei wedd broffesiynol, gyda mynediad hygyrch i bobl ag anableddau, yn tywys ein hymwelwyr ar hyd rhesi o blanhigion lliwgar a llachar.
Wedi'i rhedeg gan y Cyngor
Mae'n cael ei redeg gan Adran Learning Curve y Cyngor, sy'n arbenigo mewn cynnig cyflogaeth a chyfleusterau hyfforddi ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Mae Maesnewydd yn enghraifft berffaith o sut mae modd i'r Cyngor wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Mae saith aelod o staff llawn amser yn Maesnewydd sy'n cynorthwyo 18 o unigolion drwy gydol yr wythnos.
Cyngor Garddio
Mae staff wrth law i gynnig cyngor ac argymhellion mewn perthynas â phob agwedd o arddio a thyfu planhigion drwy epilio hadau drwy roi'r planhigion yn y man gorau yn eich gardd, beth i'w dyfu a sut i ofalu am eich gardd drwy gydol y flwyddyn.
Gwasanaeth Danfon Lleol am ddim
Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth danfon lleol am ddim ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar gyfer archebion dros £30. Os mae cyfanswm eich archeb yn llai na £30, bydd gofyn i chi dalu ffi danfon fach yn seiliedig ar eich lleoliad.
Siop Goffi Maesnewydd
Mae gyda Siop Goffi Maesnewydd ystod eang o gacennau a choffi Eidalaidd blasus. Maen nhw hefyd yn gwneud brechdanau, bagéts a thatws trwy'u croen ffres.
Oriau Agor
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 3.30pm (Siop Goffi yn cau am 3pm).
Gwyliau'r Banc, 10am - 3pm.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01685 872446.
Mae croeso i gŵn yn ein holl ardaloedd awyr agored.
Dod o hyd i ni
Mae Canolfan Arddio Maesnewydd yn Stryd Llywellyn, Trecynon, Aberdâr, CF44 8HU.