
Mae CYBI RhCT yn helpu'r Cyngor i ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth a gwybodaeth i wneud penderfyniadau sydd o fudd i drigolion RhCT.
Beth yw CYBI (Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd)?
Mae Cydweithrediadau Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) yn helpu i roi hwb i'r gallu a’r capasiti i gyflawni gwaith ymchwil ym myd llywodraeth leol. Eu nod yw ymgorffori diwylliant o ddefnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau ymhlith Cynghorau.
Mae'r CYBI yn defnyddio canfyddiadau ymchwil i ddeall sut mae penderfyniadau'n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae'r CYBI hefyd yn chwilio am gyllid i gynnal ymchwil lle nad oes tystiolaeth ar gael eisoes. Gelwir ffactorau a all effeithio ar iechyd rhywun yn 'benderfynyddion iechyd' ac mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth, neu brofi eich gwybodaeth am benderfynyddion iechyd yma: Beth yw penderfynyddion iechyd?
Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac yn cael ei hwyluso gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r NIHR yn cyllido, galluogi a chyflawni ymchwil gofal iechyd a chymdeithasol mwyaf arloesol y byd sy'n gwella iechyd a lles pobl ac yn hyrwyddo twf yn yr economi.
Mae'r fideo byr yma gan ein hariannwr, NIHR, yn ddefnyddiol i ddeall beth yw ymchwil a pham ei fod yn bwysig.
Beth yw Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf?
Mae £5 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2023) gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal er mwyn sefydlu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT). Y nod yw creu diwylliant ymchwil bywiog o fewn yr Awdurdod Lleol sy'n annog gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hynny er mwyn torri’r cylch tlodi, gwella cyfleoedd bywyd y bobl fwyaf difreintiedig, a mynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach. Mae hyn yn cynrychioli:
- Ffordd newydd o weithio i'r Cyngor.
- Ffordd o rannu'r hyn rydyn ni yn RhCT yn ei wneud a dysgu gan eraill.
- Cyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy i'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.
Mae CYBI RhCT yn bartneriaeth bwerus, sy'n ymateb i anghenion pobl a chymunedau yn RhCT. Mae ein partneriaid yn cynnwys:
- Dinasyddion sy'n byw, gweithio, astudio neu chwarae yn RhCT.
- Cyngor Rhondda Cynon Taf.
- Interlink Rhondda Cynon Taf (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol)
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ein cymuned ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Beth fydd hyd prosiect CYBI RhCT?
Y bwriad yw y bydd CYBI RhCT yn gweithredu am bum mlynedd, Ionawr 2024 - Rhagfyr 2028.
Sut all CBS RhCT ddylanwadu ar effaith Penderfynyddion Iechyd?
Mae pethau fel arian, tai, addysg, a mynediad at wasanaethau yn cael effaith fawr ar ein hiechyd — nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol ac yn emosiynol. Mae llawer o broblemau iechyd yn gysylltiedig â sefyllfaoedd niweidiol, fel byw mewn tlodi neu dai gwael. Mae'r ffactorau cymdeithasol yma, fel cyflogau neu a oes modd i unigolion fanteisio ar gymorth meddygol, yn effeithio ar ba mor iach yw pobl a hyd yn oed pa mor hir y byddan nhw'n byw. Mae gan bawb brofiadau bywyd gwahanol, felly gall penderfynyddion iechyd amrywio'n fawr — hyd yn oed rhwng strydoedd cyfagos. Mae'r fideo byr yma gan ein hariannwr, yr NIHR, yn egluro pam bod penderfynyddion iechyd o ddiddordeb i'r Cyngor.