Rheswm dros enwebu: Cafodd Grŵp Cymorth Cymunedol Covid-19 y Graig ei sefydlu gan y preswylydd lleol Gavin ar y cyd â Chynghorydd y Graig, Jayne Brencher, wrth i argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws ddechrau yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei sefydlu er mwyn cefnogi preswylwyr lleol a chynnig cymorth i'r rhai sy'n agored i niwed a/neu mewn angen.
Mae Gavin wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y grŵp, gan ymgymryd â chyfrifoldeb am reoli'r ganolfan o ddydd i ddydd a bod yn gyfrifol am gydlynu grŵp o 10 o wirfoddolwyr sydd wedi'u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn nyddiau cynnar y grŵp, sefydlodd Gavin dudalen Facebook i helpu i ddarparu gwybodaeth hanfodol i'r gymuned, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ddatblygiadau pandemig y Coronafeirws a'u hysbysu am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymuned leol. Daeth y dudalen hefyd yn llwyfan i eraill wirfoddoli eu cymorth.
Mae Gavin a'r gwirfoddolwyr wedi casglu a darparu siopa a meddyginiaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a grwpiau sy wedi'u gwarchod, sefydlu system gyfeillio ar gyfer pobl sydd wedi'u hynysu, creu a dosbarthu cylchlythyr yn llawn cysylltiadau a gwybodaeth bwysig, paratoi a dosbarthu pecynnau gweithgareddau i blant a chychwyn casgliadau banc bwyd i rai sydd mewn angen.
Mae Gavin wedi bod yn benderfynol o helpu'r gymuned ac mae ei ymroddiad a'i waith caled wedi bod yn allweddol i Grŵp Cymorth Cymunedol Covid-19 y Graig.
Yn ogystal ag ymdrechion gwych Gavin, ni fyddai canolfan y Graig wedi bod yn llwyddiant heb ymroddiad y gwirfoddolwyr eraill. Mae eu hymdrechion wedi bod yn hollbwysig. Diolch yn fawr i Neil Watkins, Paris Nicholas, Matthew Price, Ian White, Laura White, Natalie Selby, Janet Williams, Adam Mathias a Vivien Thomas am eu hamser a'u hymroddiad.