Rhwng nawr a 2018/19, bydd y Cyngor yn gwario £23 miliwn ar wella ei gynlluniau ar gyfer riffyrdd, llwybrau cerdded a strwythurau, seilwaith trafnidiaeth a gwella draenio a lliniaru llifogydd yn rhan o'r rhaglen BuddsoddiadRhCT.
Bydd y buddsoddiad yma yn ychwanegu at y £53 miliwn sydd eisoes wedi cael ei wario ar wella Priffyrdd a Seilwaith Trafnidiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn sgil y buddsoddiad sylweddol yma mewn Gwella Seilwaith Trafnidiaeth, bydd nifer o strydoedd, heolydd, trefi a phentrefi ledled y Fwrdeistref Sirol yn elwa wrth i'r gwaith fynd rhagddo mewn meysydd allweddol.
Bellach, mae modd i chi ddefnyddio ein system chwilio cod post i gael gwybod rhagor am fuddsoddiadau yn y Priffyrdd ar eich pwys.