Caiff gwelliannau ysgol o bwys eu cyflawni cyn hir mewn cymuned yng Nghwm Rhondda, diolch i fuddsoddiad sylweddol ar y cyd gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad i'r buddsoddiad £1.9miliwn, gwneir gwaith gwella i adran iau Ysgol Gynradd y Cymer.
Bydd gwaith ailfodelu ac adnewyddu helaeth yn sicrhau darparu gwelliannau i'r adeilad presennol o ddiwedd Oes Fictoria, yr adeilad o'r 1960au, a'r Ardal Gemau Aml-ddefnydd (AGADd) Cafodd y contractwyr eu penodi, ac mae'r gwaith ar fin dechrau yn fuan.
Cafodd y disgyblion iau eu lleoli dros dro yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda gerllaw. Ni fydd y gwaith yma yn golygu ac arwain at unrhyw darfu ar eu gwaith dysgu.
Bydd y gwaith allanol yn cynnwys deunydd gorchuddio newydd i adeiladau Oes Fictoria a'r 1960au. Yn ogystal â hyn fe wneir gwaith glanhau carreg, trwsio, mynedfa newydd gyda mynediad i bobl anabl, a rhodfa dan do tua'r cefn. Caiff yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd ei huwchraddio a'i hail-wynebu.
Bydd gwaith mewnol yn cynnwys gwaith trydanol a mecanyddol, a newid i'r cynllun ffisegol er mwyn ffurfio ystafelloedd newydd, tai bach, a neuadd aml-bwrpas. Caiff cegin fasnachol newydd ei ffurfio, yn ogystal â nenfydau a gorffeniadau llawr newydd. Bydd yr adeiladau yn cael eu paentio drwyddi draw.
Mae'r gwaith gwella wedi cael ei ariannu gan fuddsoddiad £1.9miliwn, gyda chyfraniadau ar y cyd gan raglen #BuddsoddiadRhCT y Cyngor a menter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
"Bydd y cyfnod hwn yn llawn cyffro i bawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd y Cymer," meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. "Bydd y disgyblion yn elwa yn y dyfodol agos o'r buddsoddiad sylweddol o £1.9miliwn o fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif."
“Mae'r disgyblion eisoes wedi symud i'w cartref dros dro yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, er mwyn sicrhau'u bod yn cael parhau i ddysgu heb darfu wrth i'r gwaith ar eu hysgol gael ei gyflawni. Bydd contractwyr y Cyngor yn cael yr adeiladau iddyn nhw'u hunain, er mwyn cael cwblhau'r gwaith.
“Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno'r buddsoddiad sylweddol diweddaraf yn ein hysgolion, wrth i'r Cyngor barhau i sicrhau cael arian Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi yn ein pobl ifainc. Bydd cenedlaethau'r oesoedd a ddêl yn cael mwynhau gwell darpariaeth ac, o ganlyniad i hyn, gwell canlyniadau addysgol.
“Mae cynllun y Cymer yn rhan o fuddsoddiad ehangach £85miliwn yn ysgolion Cwm Rhondda a Thonyrefail. Mae prosiectau eraill yn Nhonyrefail, Treorci, y Porth, a Thonypandy hefyd yn mynd rhagddyn nhw'n dda. Cwblhawyd gwaith yn Ysgol Gyfun y Pant, Pont-y-clun, yn ddiweddar. Buddsoddiad ar wahân drwy Ysgolion 21ain Ganrif oedd hyn hefyd, gwerth £24miliwn.
"Edrychaf ymlaen at weld y cynnydd a wneir yng nghynllun y Cymer yn yr wythnosau a'r misoedd a ddaw, wrth i'r Cyngor weithio yn agos â'i gontractwyr er mwyn darparu'r buddsoddiad £1.9miliwn yma.”
Wedi ei bostio ar 07/11/17