Bydd pont droed yn un o gymunedau Pontypridd yn cau dros dro er mwyn caniatáu i'r Cyngor gyflawni gwaith trwsio ac ailwampio.
Mae'r bont droed yn Nhrehopcyn yn darparu cysylltiad i gerddwyr rhwng Ffordd Trehopcyn (ffordd yr A4058), dros Afon Rhondda tua chae chwaraeon Clwb Criced Trehopcyn.
Bydd y strwythur yn cau dros dro i gerddwyr o ddydd Gwener, 10fed Tachwedd. Disgwylir i'r cynllun barhau am dua 12 wythnos. Serch hynny, mae'r gwaith yn ddibynnol ar y tywydd, ac fe allai fod yn angenrheidiol i ymestyn y cyfnod cau.
Bydd llwybr amgen i gerddwyr, o ochr ddwyreiniol y darn sydd ar gau, drwy Ffordd Trehopcyn, Ford Road, a'r llwybr is rhwng Maes-y-coed a Pharc Gwledig Barry Sidings i ochr orllewinol y darn sydd ar gau.
Bydd modd i gerddwyr fynd i'r cyfeiriad arall drwy ddechrau yn y man olaf (uchod) a gweithio'n ôl.
"Mae'r Cyngor yn parhau i wella'i rwydwaith priffyrdd ," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd "Bydd hyn yn cynnwys hawliau tramwy cyhoeddus i gerddwyr fel mae'r Cyngor yn sylweddol drwy #BuddsoddiadRhCT.
“Bydd y gwaith yn Nhrehopcyn yn sicrhau fod y bont droed yma - sy'n darparu cysylltiad lleol i gerddwyr o'r brif ffordd tua'r cae criced - yn cael ei thrwsio, a’i hadnewyddu ac, yn y pen draw, ei haddasu ar gyfer y dyfodol. Mae'r gwaith wedi'i drefnu i'w wneud tu allan i'r tymor criced. Bydd hyn yn creu cyn lleied â phosibl o darfu ag y bo modd.
“Cynhelir y cynllun dros dua 12 o wythnosau, a bydd gofyn am gau'r strwythur dros dro. Fe hoffwn i ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad a'r gwaith yma yn cael ei gyflawni.”
Wedi ei bostio ar 14/11/17