Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn, gan groesawu disgyblion cyfrwng Cymraeg presennol yr ysgol a'r rhai sy'n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.
Bydd yr ysgol yn agor ym mis Medi 2024, wedi'i hariannu yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £72 miliwn ledled ardal ehangach Pontypridd drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. ISG yw'r contractwr penodedig ar gyfer cyflawni'r gwaith yma.
Yn ystod mis Medi a mis Hydref 2021, ymgynghorodd y Cyngor ar gynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd, gan roi cyfle i drigolion ddarllen a chynnig sylwadau ar y cynigion. Cafodd achlysur cyhoeddus ei gynnal yn Rhydfelen, a oedd yn gyfle i drigolion siarad â swyddogion a'r contractwr am y cynlluniau.