Mae Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg y Cyngor wedi ymweld â’r adeilad ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gwych yn Rhydfelen, lle mae disgyblion a staff wedi bod yn mwynhau’r cyfleusterau o’r radd flaenaf ers dechrau’r flwyddyn ysgol.
Mae’r adeilad newydd, ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £75.6 miliwn y Cyngor mewn cyfleusterau addysg ar gyfer ardal ehangach Pontypridd – gyda phrosiectau mawr yn y Ddraenen Wen, Cilfynydd, Rhydfelen a Beddau yn cael eu cyflawni ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Cafodd y gwaith o adeiladu’r adeilad newydd trawiadol yn Rhydfelen ei gwblhau yn unol â’r amserlen dros yr haf, gan groesawu disgyblion Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn y flwyddyn ysgol newydd. Cafodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, groeso cynnes iawn ar ddydd Mercher, 11 Hydref, wrth iddo ymweld â’r staff a disgyblion sydd wedi ymgartrefu yn yr amgylchedd newydd, modern.
Mae'r adeilad deulawr yn cynnwys 16 ystafell ddosbarth yn ogystal ag ystafelloedd aml-ddefnydd, ardaloedd a rennir, swyddfeydd, toiledau, mannau newid, neuadd, cegin a mannau storio/peiriannau. Mae'r to wedi'i orchuddio â chelloedd ffotofoltäig i ddefnyddio ynni'r haul, gyda'r datblygiad yn anelu at fod yn garbon sero-net wrth weithredu, yn rhan o nodau ac ymrwymiadau newid hinsawdd y Cyngor.
Mae'r contractwr ISG bellach wedi dechrau ail gam y prosiect – i ddymchwel adeilad yr hen ysgol a darparu mannau gollwng a chasglu newydd i fysiau/rhieni, maes parcio staff, cae chwarae glaswellt ac ardal gynefin. Mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a mannau awyr agored llawer gwell eisoes yn cael eu mwynhau gan yr ysgol.
Bydd holl elfennau’r prosiect wedi’u cwblhau erbyn Medi 2024 i ffurfio’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, Ysgol Awel Taf – sy’n cynnwys disgyblion cyfrwng Cymraeg o Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton. Bydd disgyblion cyfrwng Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn mynychu Ysgol Afon Wen, yr ysgol 3-16 oed newydd sy’n agor yn y Ddraenen Wen o fis Medi 2024, a fydd hefyd yn elwa o floc addysgu newydd a chyfleusterau newydd rhagorol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â’r adeilad ysgol gynradd newydd wych yn Rhydfelen, ac yn falch o weld adeilad newydd arall yn Rhondda Cynon Taf sy'n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol bob dydd. Mae cyfleusterau addysg modern fel y rhain yn dod â chyfleoedd newydd i'n pobl ifainc o ran eu haddysg, gyda diolch i fuddsoddiad parhaus ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
“Mae’r prosiect yn Rhydfelen ymhell o fod yr unig un sy'n mynd rhagddo dan oruchwyliad y Cyngor ar hyn o bryd. Yn rhan o'r buddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ar gyfer ardal ehangach Pontypridd, rydyn ni hefyd yn adeiladu cyfleusterau newydd ar gyfer y Ddraenen Wen, Cilfynydd a Beddau, i’w darparu ym mlwyddyn academaidd 2024/25 – ynghyd ag adeiladau ysgol newydd ar gyfer cymunedau yng Nglynrhedynog, Llantrisant, Pentre’r Eglwys, Pont-y-clun a Glyn-coch.
“Nid yw’n teimlo'n amser hir yn ôl ers i mi fynd i safle gwaith yr ysgol newydd yn Rhydfelen ar gyfer seremoni ‘llofnodi dur’, i ddathlu adeiladu ffrâm ddur yr ysgol – ac mae’n anhygoel gweld sut mae’r prosiect wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn i ddiolch i bawb yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn am eu croeso cynnes iawn ddydd Mercher – a braf oedd clywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion a staff am sut maen nhw'n mwynhau eu cartref ysgol newydd.
“Mae contractwr y Cyngor bellach yn bwrw ymlaen ag ail gam y prosiect, i greu ardaloedd allanol modern a newydd sy’n ategu’r prif adeilad. Byddwn ni'n sicrhau y bydd y rhan yma o’r prosiect yn cael ei chwblhau gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y diwrnod ysgol – ac mae gyda ni brofiad da o’r trefniadau hyn drwy brosiectau sydd wedi’u cyflawni yn y gorffennol. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld eto’n fuan i weld y safle gorffenedig, ac i ddathlu agoriad Ysgol Awel Taf fis Medi nesaf.”
Wedi ei bostio ar 13/10/23