Browser does not support script.
Bydd y prosiect yma'n darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar safle'r ysgol bresennol, i gymryd lle'r adeiladau hŷn a’r rhai dros dro sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
Ym mis Rhagfyr 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei chyfraniad at y prosiect yma, fydd yn cael ei ariannu trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol – sef ffrwd arian refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Yn rhan o ddatblygiad graddol y safle, cafodd adeiladau dros dro newydd eu gosod yn 2023 er mwyn i'r prif waith adeiladu ddechrau. Bydd y prif waith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad newydd deulawr, a fydd yn Garbon Sero Net o ran ei weithredu, yn lle'r adeiladau presennol yn yr ysgol – gan gynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro. Mae disgwyl i'r datblygiad, sy'n cael ei gynnal gan Morgan Sindall Construction, gael ei gyflawni yn ystod gwanwyn 2025, a bydd lle i 480 o ddisgyblion a lle i 60 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin.
Bydd y datblygiad gorffenedig yn darparu amgylchedd dysgu bywiog, yn ogystal â chyfleusterau i'r gymuned eu defnyddio. Bydd yn cynnwys cyfleusterau awyr agored newydd megis maes parcio (gan gynnwys pedwar man gwefru cerbydau trydan), Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt a mannau gwyrdd - sy'n wahanol iawn i dirwedd galed y safle presennol.
Mae'r lluniau yma'n tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y misoedd diwethaf. Cafodd un ei dynnu ym mis Awst 2024 a'r llall ym mis Chwefror 2024.