Skip to main content

Adeilad ysgol newydd yn barod i groesawu disgyblion Pont-y-clun ar ôl gwyliau hanner tymor

Pontyclun Primary grid web

Bydd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn dychwelyd i amgylchedd dysgu newydd sbon o'r radd flaenaf ar ôl gwyliau hanner tymor. Mae gwaith adeiladu prif adeilad newydd ar gyfer yr ysgol wedi dod i ben yn ddiweddar, yn dilyn buddsoddiad mawr ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Mae'r adeilad deulawr modern yn barod i agor ei ddrysau am y tro cyntaf, a bydd yn croesawu disgyblion o ddydd Iau 6 Mawrth. Bydd staff yr ysgol yn symud i'r cyfleuster newydd o 3 Mawrth, er mwyn paratoi ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu eraill.

Mae'r trefniadau symud i mewn yn dilyn cwblhau Cam Un y prosiect cyffrous. Bydd gan yr adeilad newydd le i 480 o ddisgyblion (yn ogystal â disgyblion y dosbarth meithrin), a bydd yn cynnig amgylchedd o'r radd flaenaf sy'n cynnwys man canolog, ystafelloedd dosbarth i'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, prif neuadd a mannau ategol. Bydd yr adeilad yn cael ei weithredu'n Garbon Sero Net, gan gydymffurfio ag ymrwymiadau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru o ran y Newid yn yr Hinsawdd.

Mae'r buddsoddiad mawr yma i'r gymuned yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Bydd contractwr y gwaith adeiladu, Morgan Sindall, yn dechrau gwaith Cam Dau'r prosiect yn fuan – a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd allanol y datblygiad ehangach. Bydd yn symud yr adeiladau ysgol dros dro o'r safle, yn dymchwel pob un o'r hen adeiladau sy'n weddill ac yn sefydlu mannau awyr agored newydd yr ysgol, a fydd yn cynnwys adeiladu Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, mannau chwarae â llawr caled a lleoedd parcio. Mae disgwyl i ail gam y gwaith gael ei gwblhau yn ystod yr hydref, 2025.

Mae gwaith hefyd wedi cael ei gynnal i gyflawni gwelliannau i gerddwyr Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn y strydoedd ger safle'r ysgol, ar ôl dechrau ym mis Ionawr 2025. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yma'n creu amgylchedd mwy diogel i deuluoedd sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno bob bore a phrynhawn, wrth eu hannog nhw i gerdded a beicio.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Rydw i wrth fy modd bod adeilad newydd sbon Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn barod i groesawu disgyblion a staff o'r wythnos nesaf, wrth i ni ddarparu amgylchedd dysgu gwych arall a fydd yn gwneud gwahaniaeth i addysg ein pobl ifainc bob dydd. Es i i'r ysgol ym mis Mawrth 2024, gan ymuno â staff, disgyblion a'n contractwyr i ddathlu camau cynnar y datblygiad – ac mae'n wych gweld yr adeilad ysgol sydd bellach wedi'i gwblhau, yn llawn cyfleusterau o'r radd flaenaf a mannau dysgu hyblyg.

“Mae ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ysgolion newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, wrth i ni fuddsoddi yn ein pobl ifainc. Ynghyd â'r prosiect yma ym Mhont-y-clun, mae'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol wedi darparu ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, ac mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi cefnogi buddsoddiad gwerth £79.9 miliwn ledled Cilfynydd, Rhydfelen, Y Ddraenen-wen a Beddau ar gyfer y flwyddyn academaidd yma. Derbyniodd YGG Llyn y Forwyn safle ysgol newydd ym mis Ionawr 2025, ac aethon ni ati'n ddiweddar i sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu ysgol newydd yn ardal Glyn-coch – sy'n cael ei chyflawni gyda chyllid ychwanegol a gafodd ei sicrhau trwy Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

“Gyda'r adeilad ysgol newydd wedi'i adeiladu ar safle Ysgol Gynradd Pont-y-clun, bydd sylw bellach yn cael ei roi i ddatblygu ardaloedd awyr agored y safle – gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, mannau chwarae â llawr caled a lleoedd parcio. Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'n contractwr a'r ysgol i sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo'n ddiogel ac yn effeithlon er mwyn ei gwblhau'n ddiweddarach eleni. Rydw i'n edrych ymlaen at weld gweddill y prosiect yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf – a dyma ddymuno'r gorau i ddisgyblion a staff wrth i'w hysgol gyffrous agor ei drysau yr wythnos nesaf.”

Wedi ei bostio ar 26/02/2025