Skip to main content

Ysgol Gyfun Rhydywaun

 
Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun yn elwa ar fuddsoddiad o £12.1 miliwn i ehangu capasiti'r ysgol a darparu cyfleusterau newydd sylweddol ar gyfer staff, disgyblion a'r gymuned.

Yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn flaenorol), bydd y buddsoddiad gwerth £12.1 miliwn yn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol o 1,038 i 1,225, sef cynnydd o 187 disgybl. Bydd y Cyngor yn derbyn cyfraniad o 65% gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu’r cyfleusterau newydd sbon.

Cyflwyno cyfleusterau newydd gwerth £12.1 miliwn yn Ysgol Rhydywaun ym Mhen-y-waun (Gorffennaf 2021)

Yn ei gyfanrwydd, bydd y cynllun yn darparu cyfleusterau addysgu a chwaraeon sylweddol ar dir yr ysgol bresennol. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Dymchwel tŷ presennol y gofalwr a chael gwared ar ystafelloedd dosbarth dros dro yr ysgol.
  • Adeiladu bloc wyth ystafell ddosbarth newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd i’r gymuned, ynghyd â chyfleusterau drama a cherddoriaeth i'r ysgol.
  • Derbynfa newydd i'r ysgol, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd ac ystafelloedd newid, ynghyd â maes parcio newydd gyda lle i 45 cerbyd a man cadw beiciau.

Bydd modd i'r gymuned ehangach ddefnyddio rhai o'r cyfleusterau yma hefyd, ond bydd aelodau'r gymuned a disgyblion yr ysgol yn cael eu cadw ar wahân.

Bydd y datblygiad yn ategu'r cae chwaraeon 3G 'pob tywydd' newydd a gafodd ei ddarparu gan y Cyngor ym mis Ebrill 2019 ar gyfer yr ysgol a'r gymuned.

Cafodd caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad ei gymeradwyo ym mis Chwefror 2021, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gynnal yn ystod 2022.