Mae'r gwaith i ddarparu cyfleusterau newydd gwerth £12.1 miliwn i'r ysgol a'r gymuned yn Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi dechrau'n swyddogol ac mae'r Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gymraeg wedi ymweld â'r safle i nodi'r achlysur.
Bydd cyfleusterau newydd sbon yr ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhen-y-waun yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, ac yn galluogi'r ysgol i gynnig lle i 187 disgybl ychwanegol. Sicrhaodd y Cyngor gyfraniad o 65% gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i gynnal y gwaith yma, a gafodd ganiatâd cynllunio yn ystod mis Chwefror 2021.
Aeth y Cynghorydd Geraint Hopkins i ymweld â'r ysgol ddydd Mawrth, 27 Gorffennaf ar ran yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant. Cafodd ei groesawu gan y contractwr penodedig Willmott Dixon. Dechreuodd y gwaith ar y safle ar 12 Gorffennaf, a bydd y gwaith yn cynnwys:-
- Dymchwel tŷ presennol y gofalwr a chael gwared ar ystafelloedd dosbarth dros dro yr ysgol.
- Adeiladu bloc wyth ystafell ddosbarth newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd i'r gymuned, ynghyd â chyfleusterau drama a cherddoriaeth i'r ysgol.
- Derbynfa newydd i'r ysgol, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd ac ystafelloedd newid, ynghyd â maes parcio gyda lle i 45 cerbyd a man cadw beiciau.
Yn ystod y gwaith, bydd Willmott Dixon yn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fywyd yr ysgol. Bydd y contractwr yn osgoi trefnu danfoniadau ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol er mwyn lleihau tagfeydd traffig yn y gymuned leol. Yn ogystal â hynny, bydd mwyafrif y peiriannau trwm yn cyrraedd y safle yn ystod y gwyliau haf. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Awst 2022.
Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion y Gymraeg: “Roedd yn wych gallu ymweld ag Ysgol Gyfun Rhydywaun ddydd Mercher, a gweld safle sydd ar fin cael ei drawsnewid gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif - diolch i fuddsoddiad ar y cyd £12.1 miliwn y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor yn falch iawn o groesawu'r contractwr Willmott Dixon i ymuno â'r prosiect yma.
“Bydd y gwaith yn welliant sylweddol i gyfleusterau presennol yr ysgol, gan gynnwys bloc o ystafelloedd dosbarth newydd sbon, derbynfa newydd, neuadd chwaraeon a maes parcio ychwanegol. Bydd y rhain nid yn unig o fudd i staff a disgyblion, ond hefyd i'r gymuned ehangach a fydd yn gallu defnyddio nifer o'r cyfleusterau, yn yr un modd ag y mae'r cae chwaraeon 3G newydd wedi'i agor at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned.
“Mae'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad addysg ehangach ar draws Cwm Cynon, gyda chyfleusterau gwerth £10.2 miliwn wedi'u darparu yn Ysgol Gynradd Hirwaun yn ddiweddar, a gwaith adeiladu ar estyniad gwerth £4.5 miliwn a chyfleuster gofal plant newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr bellach ar y gweill. Mae cynlluniau Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn cael eu darparu erbyn 2022, ac yn dangos ymrwymiad y Cyngor i addysg cyfrwng Cymraeg, yn unol â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
“Gyda’r prosiect cyffrous yn Ysgol Rhydywaun bellach ar y gweill, rydw i'n edrych ymlaen at weld Willmott Dixon yn trawsnewid safle’r ysgol, wrth i’r Cyngor ddod â buddsoddiad pellach mewn addysg i gymuned arall. Bydd y Cyngor, ei gontractwr a'r ysgol i gyd yn cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod y datblygiad yn digwydd â chyn lleied o aflonyddwch â phosib, wrth i ni ddarparu cyfleusterau y bydd disgyblion presennol yr ysgol a disgyblion y dyfodol yn falch ohonyn nhw."
Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon: ''Rydyn ni'n falch iawn o fod yn dechrau gweithio ar Ysgol Rhydywaun. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'r Cyngor a'n partneriaid i greu amgylchedd dysgu eithriadol i'r gymuned leol.
“Gan weithio gyda chadwyn gyflenwi leol, mae gyda ni enw da o ran darparu ysgolion ledled Cymru a byddwn ni'n sicrhau bod adeiladu Ysgol Rhydywaun yn elwa'r gymuned drwy gynnig rhaglen o gyfleoedd sy'n cynnwys profiad gwaith, prentisiaethau, mentora a chyflogaeth. Yn ogystal, byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i'r bobl hynny sydd angen help i gyrraedd y farchnad swyddi.''
Wedi ei bostio ar 29/07/21