Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar hen safle Pencadlys y Cyngor yng Nghwm Clydach, a dyma fydd pumed ysgol ADY Rhondda Cynon Taf.
Cytunodd y Cabinet i sefydlu'r ysgol newydd yn 2024 yn rhan o fuddsoddiad sy'n ymateb i gynnydd yn nifer y disgyblion ag ADY a chymhlethdod cynyddol anghenion y disgyblion. Cafodd y safle ei ddymchwel yn 2024, a chafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Mawrth 2025. Mae Morgan Sindall wedi'i benodi yn gontractwr adeiladu.
Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ADY cyfrwng Saesneg i 176 o ddisgyblion mewn adeilad deulawr modern. Bydd yn cael ei hadeiladu yng nghanol y safle, a ddyluniwyd i fodloni safonau gweithredu carbon 'net sero'. Bydd 12 dosbarth ar y llawr gwaelod, ynghyd â ffreutur a phwll hydrotherapi. Bydd 11 dosbarth ar y llawr cyntaf a chanolfan les. Bydd ardaloedd dysgu yn yr awyr agored ac ardaloedd chwarae o gwmpas yr adeilad.
Cynlluniau wedi'u cymeradwyo i ddarparu ysgol ADY fodern yng Nghwm Clydach (Mawrth 2025)
Bydd mynediad presennol y safle o'r ffordd ddienw oddi ar Ystad Ddiwydiannol Parc Hen Lofa'r Cambrian yn parhau i gael ei ddefnyddio, gyda maes parcio â 79 o leoedd (ynghyd â mannau gwefru cerbydau trydan) wedi'i gynnwys o fewn ffin y prif safle. Bydd cyfleusterau parcio ar gael at ddefnydd y gymuned y tu hwnt i oriau'r ysgol.
Mae disgwyl i'r prif gam adeiladu ddechrau ar y safle yn ystod gwanwyn 2025, gyda'r nod o agor yr ysgol yn 2026.