Skip to main content

Ysgol Gynradd newydd ar gyfer Glyn-coch

 

Bydd y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn darparu ysgol gynradd a hwb cymunedol newydd ar gyfer Glyn-coch, gyda chynaliadwyedd a thechnolegau gwyrdd wrth galon dyluniad y prosiect.

Glyncoch Primary School

Mae darparu ysgol newydd ar gyfer y gymuned wedi bod yn nod hirdymor i'r Cyngor, ac yn 2023, cafodd y prosiect ei gyhoeddi yn un o dri chynnig llwyddiannus yng Nghymru i dderbyn 100% cyllid grant (hyd at £15 miliwn) o Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Cafodd ei ddewis am ei ddyluniad arloesol a chydweithredol, a'i nod o ddod yn ysgol wirioneddol gynaliadwy.

Bydd yr ysgol yn croesawu disgyblion o Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, ac yn cyfuno dalgylchoedd y ddwy. Bydd yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a'i dir cyfagos. Bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn cynnwys Dosbarthiadau Meithrin a Chymorth Dysgu, gyda chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg hefyd yn yr adeilad.

Caniatâd cynllunio ar gyfer ysgol a hwb cymunedol newydd Glyn-coch (Ionawr 2025)

Ym mis Ionawr 2025, cafodd caniatâd llawn ei roi i ddymchwel yr adeilad presennol, ac adeiladu ysgol gynradd ddeulawr yn ei le gyda chyfleusterau cymunedol, maes parcio ar gyfer lle i 43 cerbyd ynghyd â mannau gwefru cerbydau trydan, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, a chae chwaraeon glaswellt. Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys mynediad gwell oddi ar Lôn y Cefn.

Bydd y datblygiad yn cyflawni achrediad carbon ‘Sero Net’, yn ogystal â rhagori ar dargedau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gostyngiadau mewn carbon ymgorfforedig yn y gwaith adeiladu ei hun, sydd oll yn cyfrannu at nodau ac ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru. 

Mae'r prosiect hefyd yn targedu Safon Passivhaus, achrediad Building With Nature, a'r Safon Adeiladu WELL – sy'n canolbwyntio ar greu amgylcheddau iach i ddefnyddwyr adeiladau i gefnogi lles.

Dechreuodd gwaith paratoi cychwynnol ar y safle ar ddiwedd mis Mawrth 2025, a bydd y prif gam adeiladu'n dilyn ar ddiwedd mis Ebrill 2025.

Gwaith yn dechrau ar safle Glyn-coch cyn dechrau adeiladu'r ysgol newydd (Mawrth 2025)