Skip to main content

RhCT Rhwydwaith Staff

Cynghreiriaid – Torri Ffiniau

Allies

Mae ein rhwydwaith Cynghreiriaid yn cefnogi pob rhwydwaith staff arall. Rydyn ni o'r farn bod pobl yn cyflawni'n well wrth ddangos pwy ydyn nhw. Mae'r Cynghreiriaid yn defnyddio eu rôl nhw o fewn y Cyngor i greu diwylliant lle mae modd i hyn ddigwydd. 

Egwyddorion ein Rhwydwaith yw:

Datblygu triniaeth deg

  • Sicrhau bod pawb yn cael cydraddoldeb llawn yn y gweithle
  • Herio diwylliannau lle nad oes modd i bobl ddangos pwy ydyn nhw

Bod yn Gynghreiriad

Does dim ffordd gywir neu anghywir o fod yn gynghreiriad. Y cyfan sydd ei angen yw i chi ddangos eich bod chi o'r farn bod tegwch a chydraddoldeb yn bwysig trwy'r hyn rydych chi'n ei wneud a'i ddweud. 

Dyma rai ffyrdd i chi ddangos eich cefnogaeth a bod yn gynghreiriad gweithredol:

Bod yn weladwy – rhowch wybod i bobl eich bod chi'n gynghreiriad

  • Siarad yn gadarnhaol am y rhesymau eich bod chi'n ymrwymo i gydraddoldeb
  • Herio iaith ac ymddygiad annerbyniol yn y gweithle
  • Cefnogi a dangos y ffordd i gydweithwyr sy'n methu â dangos pwy ydyn nhw yn y gweithle
  • Cefnogi rhwydweithiau staff eraill
  • Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cydraddoldeb trwy godi ymwybyddiaeth
  • Annog pobl eraill i fod yn gynghreiriaid
  • Bod yn rhan o ddiwrnodau ymwybyddiaeth, boreau coffi ac achlysuron cydraddoldeb
  • Gwrando ar straeon a'u rhannu.

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Cynghreiriaid@rctcbc.gov.uk.

Rhwydwaith Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf

Carers Network Logo

 

 Mae Rhwydwaith  Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn darparu amgylchedd diogel a chynorthwyol i gynhalwyr rannu eu profiadau, derbyn cymorth emosiynol a chael mynediad at wybodaeth ac adnoddau fyddai'n gymorth iddyn nhw yn eu rolau gofalu gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Ein hamcanion yw: 

  • Darparu Cymorth Emosiynol: cynnig gofod lle mae modd i gynhalwyr sy'n gweithio fynegi eu teimladau heb feirniadaeth.
  • Rhannu Gwybodaeth: Darparu gwybodaeth mewn perthynas â rhoi gofal, gwasanaeth ac adnoddau sydd ar gael.
  • Lleihau Ynysrwydd: Creu cyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol er mwyn lleihau'r ymdeimlad o ynysrwydd sy'n cael ei deimlo gan gynhalwyr yn aml.
  • Datblygu Strategaethau Ymdopi: Helpu cynhalwyr i ddatblygu strategaethau ymdopi effeithiol er mwyn rheoli straen a heriau o ran rhoi gofal ar y cyd â'u bywyd gwaith.
  • Eirioli ar ran Cynhalwyr: Cynrychioli buddion ac anghenion cynhalwyr i Gyngor Rhondda Cynon Taf, a hwythau’n weithwyr i'r sefydliad.

Pe hoffech chi ymuno â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr, e-bostiwch: cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.

Rhwydwaith Anabledd i Staff

Disability Network Logo

 

Mae'r Rhwydwaith Anabledd i Staff yn croesawu pob aelod o staff sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd, gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl neu anabledd cudd, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud ag anableddau neu hygyrchedd yn y Cyngor.  

Rydyn ni’n dod at ein gilydd i rannu ein profiadau o weithio i'r Cyngor, ac yn cydweithio i drafod sut y gall y Cyngor gefnogi ei staff anabl yn well.

Rydyn ni o’r farn bod staff anabl yn gaffaeliad i'r Cyngor, a'i bod yn hynod bwysig bod gweithwyr anabl yn ffynnu yn y gweithle.  Ein rôl fel rhwydwaith yw hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o anableddau gweladwy ac anableddau nad ydyn nhw'n weladwy yn y gweithle.

Mae ein gwaith yn cynnwys archwilio’r rhwystrau y mae staff anabl yn eu hwynebu yn y Cyngor, a thynnu sylw atyn nhw, a gweithio gydag uwch arweinwyr a swyddogion eraill i nodi sut y gallwn gael gwared ar y rhwystrau yma.  Rydyn ni’n cyfeirio staff at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddyn nhw, ac yn darparu cyfle i rannu arfer da â staff a rheolwyr.

Mae'r Rhwydwaith Anabledd i Staff yn ofod cadarnhaol er mwyn gwneud gwahaniaeth i staff - pe hoffech chi ymuno â ni, e-bostiwch: cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk

Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol Rhondda Cynon Taf.

ND Network

Mae'r rhwydwaith yn cael ei arwain gan staff niwroamrywiol y Cyngor ac wedi'i gymeradwyo gan Uwch Arweinwyr y Cyngor. Mae wedi cael ei sefydlu er mwyn helpu'r Cyngor ar y daith i dderbyn, amddiffyn a dathlu niwroamrywiaeth yn ei gweithlu. Bydd y Rhwydwaith yn cynnwys 3 prif ran:
  • Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd - mae'r rhan yma ar gyfer helpu a chodi ymwybyddiaeth i bob aelod o staff (niwroamrywiol a niwrodebygol). Bydd y grŵp yma'n darparu cyngor a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn niwroamrywiaeth, ond hefyd ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am wybodaeth ar lwybrau cael diagnosis a.y.b. Byddwn ni hefyd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd er mwyn mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu a gwella'r profiad o weithio i'r Cyngor i bawb
  • Grŵp Cymorth Cyfoedion ar gyfer staff niwroamrywiol - bydd croeso i unrhyw un o weithwyr y Cyngor sydd wedi derbyn diagnosis ffurfiol o niwroamrywiaeth neu ar y llwybr diagnostig (mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad / ar restr aros derbyn diagnosis) ddod i ran yma'r rhwydwaith. Mae'n grŵp caeedig er mwyn darparu amgylchedd unigryw sy'n ddiogel a chyfrinachol i aelodau.
  • Cynorthwyo â busnes sefydliadol y Cyngor - bydd hyn yn golygu bod aelodau'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol ar gael i eirioli dros staff niwroamrywiol a helpu rheolwyr wrth ddarparu addasiadau rhesymol.

 Mae croeso i staff fyddai'n hoffi ymuno â’n Grŵp Cymorth Cyfoedion wneud hynny ar hyn o bryd. Os hoffech chi ymuno â rhan Cymorth Cyfoedion y Rhwydwaith Niwroamrywiol, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk. Rydyn ni'n cwrdd bob mis ar hyn o bryd, ac mae modd i staff fynychu'r cyfarfodydd yma'n rhan o'u horiau gwaith.

 Byddwn ni'n lansio rhannau eraill y rhwydwaith ddechrau 2024.

 Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth yn ymwneud ag ymuno â'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk

Perthyn – Dyheu i berthyn

Perthyn

Ydych chi'n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws? Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i gydweithwyr LGBTQIA+? Hoffech chi fod yn rhan o rwydwaith staff cyffrous?

Perthyn yw ein rhwydwaith staff LGBTQIA+ ac mae croeso i unrhyw aelod o staff sy'n gweithio i'r Cyngor neu ar ran y Cyngor ac sy'n perthyn i'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Cwiar (queer)/Cwestiynu, Rhyngrywiol ac Anrhywiol. Nodwch fod traws, cwiar/cwestiynu a'r symbol '+' yn dermau cyffredinol i ddisgrifio'r bobl hynny nad yw eu rhywedd yr un peth â’r rhyw a gafodd ei neilltuo iddyn nhw adeg eu geni, neu bobl sydd â hunaniaeth rhywedd neu rhywiol gwahanol. 

Nod Perthyn yw:

Cefnogi gwaith parhaus y Cyngor i greu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae modd i aelodau o staff LGBTQIA+ fod yn weladwy heb ofni cael eu cosbi, ac yn rhydd rhag achosion o wahaniaethu neu ragfarn yn eu bywydau gwaith

  • Cynnal lle diogel lle mae aelodaeth yn wirfoddol ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae'r grŵp yn derbyn efallai fydd aelodau ddim yn dymuno “dod allan” yn y gweithle ac rydyn ni'n parchu eu dymuniad i aros yn ddienw wrth gymryd rhan yn achlysuron y rhwydwaith
  • Cynghori'r Cyngor ynghylch datblygu ei bolisïau amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Gweithredu'n wasanaeth cyfeirio ar gyfer staff a gwirfoddolwyr i roi gwybod am unrhyw achosion o wahaniaethu neu ragfarn y maen nhw wedi eu dioddef ac/neu wedi bod yn dyst iddyn nhw yn y gweithle. Bydd y rhwydwaith yn gweithio'n agos gyda'r Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant yn unol â'r Polisi Urddas yn y Gwaith i fynd i'r afael â'r materion yma os bydd y rhwydwaith neu ei aelodau yn cael gwybod am achosion o'r fath.

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Perthyn@rctcbc.gov.uk.

Spotlight

Spotlight

Spotlight yw'r rhwydwaith staff i bobl o bob cefndir diwylliannol a hiliol sy'n angerddol dros wneud newid sefydliadol. Mae'r rhwydwaith yn rhoi cyfle i drafod, cwestiynu, herio a gweithredu lle bo angen, i hyrwyddo cydraddoldeb i bob hil ac amrywiaeth. Rydyn ni'n croesawu pobl o bob cefndir ethnig i gyfrannu tuag at sgwrs ehangach ynglŷn â chynnydd.  

Ein bwriad ni yw bod yn eiriolwyr dros gydraddoldeb i bobl o bob hil ac amrywiaeth. Ein bwriad yw cynnig safbwyntiau a syniadau newydd trwy rannu ein profiadau er mwyn sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn groesawgar i bawb.

Egwyddorion ein Rhwydwaith yw:

  • Bod yn lle diogel i rannu ein profiadau
  • Ysgogi newid sefydliadol
  • Trafod materion cymdeithasol megis hiliaeth
  • Canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu
  • Croesawu cefndiroedd a diwylliannau amrywiol

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Spotlight@rctcbc.gov.uk.