Nod Canolfan Cydnerthedd y Gymuned (Hwb) Glynrhedynog yw dod ag ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chefnogaeth ynghyd mewn un lleoliad yng nghanol Cwm Rhondda Fach Uchaf. Mae Fern Partnership yn rheoli'r cyfleuster yma mewn partneriaeth â'r Cyngor a Sefydliadau Trydydd Sector
Cyfleusterau
Cydlynydd Cymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf
|
Amanda Thomas – Amanda.thomas2@rctcbc.gov.uk - Ffôn Symudol 07385 086 783
|
Llyfrgell
|
Mae'r llyfrgell bellach ar agor i bori trwy lyfrau ac mae'r gwasanaeth clicio a chasglu yn parhau i fod ar waith:
Dydd
|
Amseroedd
|
Dydd Llun
|
9.00am -1.00pm
|
Dydd Mawrth
|
9.00am - 6.30pm
|
Dydd Mercher
|
AR GAU
|
Dydd Iau
|
9.00am - 5.00pm
|
Dydd Gwener
|
9.00am - 6.00pm
|
Dydd Sadwrn
|
9.00am - 1.00pm
|
|
Ystafell i'r Gymuned sydd ar gael i'w llogi
|
Mae ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd hyfforddi ar gael yn y lleoliad i'w llogi am bris rhesymol. Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch Gydlynydd The Fern Partnership ar 01443 570021 neu e-bostiwch: Hwb@fernpartnership.co.uk
|
Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd
|
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. |
Wifi am ddim
|
Bydd cyfrinair Wifi yn cael ei arddangos yn y ganolfan. |
Gofal Plant
|
Mae Meithrinfa Ddydd Little Ferns yng Nglynrhedynog yn cynnig darpariaeth gofal plant i'r rheiny rhwng 6 wythnos a 5 oed. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys gofal dydd llawn, darpariaeth cofleidiol a chynnig gofal plant o 30 awr. |
Ystafell Synhwyraidd
|
Mae ystafell synhwyraidd aml-ddefnydd ar gael ar gyfer grwpiau ac unigolion. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: Hwb@fernpartnership.co.uk |
Toiledau
|
Mae toiledau cyhoeddus hygyrch ar gael. |
Gwasanaeth
Cyngor a chymorth cyflogaeth
|
Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn cynnig cymorth i drigolion yn RhCT sy'n gobeithio dechrau gweithio, hyfforddineu wirfoddoli a gallwch chi drefnu apwyntiad trwy e-bostio gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk, trwy ddefnyddio’r eicon ar Facebook neu drwy ffonio 01443 425 761
|
Addysg yn y gymuned, diwylliant a'r celfyddydau
|
Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â phrosiectau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan
|
Am ragor o wybodaeth am yr hyn fydd yn cael ei gynnig yn y ganolfan gymuned, edrychwch amdani ar Facebook, Trydar, Eventbrite neu anfon neges e-bost: hwb@fernpartnership.co.uk
Canolfan Cydnerthededd y Gymuned (Hwb) Glynrhedynog
Heol y Gogledd
Glynrhedynog
CF43 4PS
Ffôn: 01443 570021