Yn y gweithdy yma fe fyddwn ni'n trafod awgrymiadau da ar gyfer paratoi ac ysgrifennu cais am gyllid cymunedol gan RhCT Gyda'n Gilydd.
Bydd pecyn defnyddiol ar gyfer cadw cofnodion cywir a dangos tystiolaeth o allbynnau a deilliannau yn cael ei rannu â'r sawl sy'n bresennol, gallwch ddefnyddio'r rhain i'ch helpu i ddangos yr effaith mae eich prosiect yn ei chael yn eich cymuned leol.
Hyd: 2 Awr
Dull cyflwyno: wyneb yn wyneb neu ar Microsoft Teams
Os hoffech chi drefnu sesiwn hyfforddiant, neu fod yn bresennol yn un ohonynt, mynnwch air ag aelod o Garfan RhCT Gyda'n Gilydd. Gallwch wneud hynny yn ystod cyfarfodydd Rhwydweithiau Cymdogaeth, cyfarfodydd rhwydwaith Bwyd RhCT, ar e-bost rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425 368.