Yn y gweithdy yma fe gewch chi ddysgu sut i wreiddio Gwerth Cymdeithasol yn eich prosiectau a sut i roi amcangyfrif o werth ariannol i'r effaith mae eich gweithgaredd cymunedol yn ei chael.
Gall Gwerth Cymdeithasol fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn chwilio am gyllid neu'n ysgrifennu adroddiadau ar effaith.
Hyd: Awr a Hanner
Dull Cyflwyno: Wyneb yn Wyneb neu ar Microsoft Teams
Os hoffech chi drefnu sesiwn hyfforddiant, neu fod yn bresennol yn un ohonynt, mynnwch air ag aelod o Garfan RhCT Gyda'n Gilydd. Gallwch wneud hynny yn ystod cyfarfodydd Rhwydweithiau Cymdogaeth, cyfarfodydd rhwydwaith Bwyd RhCT, ar e-bost rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425 368.