Skip to main content

Rhwydweithiau Cymdogaeth

Ar hyn o bryd, mae 10 Rhwydwaith Cymdogaeth ar waith ledled CBSRhCT. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd i drafod yr hyn sy'n bwysig i drigolion lleol ac i gyfnewid gwybodaeth a chyngor.

Mae Rhwydweithiau Cymdogaeth yn bartneriaethau lleol; mae gwasanaethau'r Cyngor, sefydliadau a grwpiau lleol yn rhan ohonyn nhw. Mae'r rhwydweithiau yma'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau i gefnogi cymunedau ymhellach. Mae'r Rhwydweithiau Cymdogaeth yn adrodd yn ôl yn uniongyrchol i Grŵp Llywio Cymorth Cymunedol RhCT, sydd wedyn yn adrodd yn ôl i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf. 

Â'r nod o ddatblygu a chryfhau cydnerthedd a dyfeisgarwch yn y gymuned, mae Rhwydweithiau Cymdogaeth ledled RhCT wedi pennu ar ystyr ar y cyd:

"Mae cymuned gydnerth a hunanddibynnol yn un sy'n rhoi lles cymunedau'n gyntaf ac sy'n cydweithio gan ddefnyddio ei hadnoddau torfol er mwyn ei chynnal ei hun."

I ganfod eich Rhwydwaith Cymdogaeth agosaf, bwriwch olwg dros yr amserlenni cyfarfod a'r manylion cyswllt sydd isod ar gyfer pob Rhwydwaith. 

Yma gallwch weld y map sy'n dangos ardaloedd gweithgarwch Rhwydweithiau Cymdogaeth lle gallai gwaith trawsffiniol fod yn digwydd.

Amserlenni'r Rhwydwaith Cymdogaeth ar gyfer Hydref - Rhagfyr 2024