Mae tyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun yn ffordd syml o fwyta bwyd mwy ffres, arbed arian, a lleihau eich ôl troed carbon. P'un a oes gyda chi silff ffenestr, gardd, neu randir, gall tyfu eich bwyd eich hun wneud gwahaniaeth go iawn. Mae'n ffordd ymarferol o ddysgu am fwyd, gwastraffu llai, a mwynhau'r hyn rydych chi wedi'i dyfu.
Pam tyfu eich bwyd eich hun?
- Blas mwy ffres – does dim byd yn well na chynnyrch newydd ei gasglu
- Arbed arian – lleihau biliau siopa bwyd dros amser
- Lleihau eich ôl troed – lleihau allyriadau deunydd pecynnu a chludiant
- Dysgu drwy wneud – ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth am fwyd
- Lleihau gwastraff – casglu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi
- Hybu lles – mae garddio’n cefnogi iechyd meddwl a chorfforol
- Meithrin cymuned – rhannu bwyd dros ben a chyfnewid syniadau defnyddiol gyda chymdogion
- Cefnogi bioamrywiaeth – creu cynefinoedd ar gyfer peillwyr a bywyd gwyllt
Rhandiroedd
Darn o dir sy'n cael ei ddefnyddio gan unigolyn ar gyfer tyfu bwyd a garddio anfasnachol yw rhandir. Mae gyda Chyngor RhCT dros 70 o safleoedd rhandiroedd ledled y sir. Mae rhandir yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored ac ymuno â chymuned o unigolion o'r un anian. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y rhestr aros am randir ewch i dudalen Rhandiroedd RhCT.
Gerddi Cymunedol
Mae llawer o sefydliadau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf yn cynnig lle cyffredin lle gall pobl ddod at ei gilydd i dyfu bwyd, meithrin cysylltiadau a gofalu am yr amgylchedd. Gall gerddi cymunedol eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a rhoi ffordd i chi ddechrau tyfu bwyd, hyd yn oed tra byddwch chi ar restr aros am randir. Am ragor o wybodaeth am gymryd rhan mewn prosiect gardd gymunedol yn eich ardal ewch i Cysylltu RhCT.
Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Yn RhCT, mae'n cynnwys trosglwyddo rheolaeth adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliad cymunedol “nid er elw personol”, menter gymdeithasol neu Gyngor Tref a Chymuned. Efallai y bydd ystod o gytundebau ar gael (a bennir fesul achos) a allai gynnwys:
- Cytundeb Rheoli
- Tenantiaeth wrth Ewyllys
- Trwydded
- Prydles Tymor Byr
- Prydles Tymor Hir (dewis diofyn Cyngor RhCT)