Skip to main content

Bwyd Cynaliadwy: Syniadau defnyddiol

Dewch o hyd i awgrymiadau ymarferol syml i wneud dewisiadau bwyd cynaliadwy sy'n fuddiol i chi, eich cymuned a'r blaned.
  1. Bwyta'n dymhorol – drwy ddewis ffrwythau a llysiau sydd yn eu tymor mae'n ffordd symlach o fwynhau cynnyrch mwy ffres a blasus wrth leihau effaith amgylcheddol cludiant teithiau pell a ffermio ynni-ddwys. Bydd dewis bwydydd sy'n cael eu cynaeafu'n naturiol ar adegau penodol o'r flwyddyn yn fwy ffres, yn fwy blasus ac yn aml yn well i'ch balans banc hefyd.

    Am ragor o wybodaeth am ba fath o fwyd sydd yn ei dymor a phryd, edrychwch ar y canllaw yma: Eat Seasonably (Saesneg yn unig).
  2. Lleihau gwastraff bwyd – Oeddech chi'n gwybod bod 4.6 miliwn tunnell o fwyd y mae modd ei fwyta o hyd yn mynd i wastraff bob blwyddyn yn y DU. Drwy gynllunio prydau bwyd, storio bwyd yn iawn a defnyddio'r hyn rydyn ni'n ei brynu, gallwn ni leihau gwastraff yn sylweddol gyda'n gilydd. Nid yn unig mae lleihau gwastraff bwyd yn dda i'r blaned, mae'n ffordd ymarferol o arbed arian a gwneud y gorau o'r hyn sydd gyda ni.

    Am ragor o wybodaeth, ewch i: Caru Bwyd Casáu Gwastraff / Atal gwastraff bwyd.
  3. Siopa'n lleol – Mae siopa'n lleol yn ffordd dda iawn o gefnogi eich cymuned, lleihau eich effaith amgylcheddol, a mwynhau bwyd mwy ffres y mae modd ei olrhain yn haws. Drwy ddewis cynnyrch sy'n cael ei dyfu'n lleol, rydych chi'n lleihau allyriadau cludiant, gwastraff deunydd pecynnu a defnydd ynni. Mae hefyd yn helpu i feithrin economi leol wydn ac yn cryfhau cydberthnasau rhwng tyfwyr a defnyddwyr. Boed yn farchnad ffermwyr, siop gymunedol, neu gynhyrchydd lleol, mae pob eitem sy'n cael ei phrynu yn helpu i lunio dyfodol tecach a gwyrddach.

    Am wybodaeth am siopa'n lleol edrychwch ar y map yma o gynhyrchwyr bwyd lleol yn agos atoch chi: Buy local food buy seasonal food farm shops sustainable food organic food - BigBarn (Saesneg yn unig).
  4. Bwyta mwy o ffrwythau a llysiau – Nid yn unig mae bwyta mwy o ffrwythau a llysiau yn dda i'ch iechyd – mae'n well i'r blaned hefyd. Yn gyffredinol, mae angen llai o adnoddau ar blanhigion i dyfu, maen nhw'n cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac maen nhw'n helpu i warchod bioamrywiaeth. Drwy ddewis mwy o lysiau rydych chi'n gwneud newid syml sy'n cefnogi lles personol a system fwyd fwy cynaliadwy.

    Am ragor o wybodaeth am ychwanegu mwy o ffrwythau a llysiau at eich prydau bwyd, ewch i: Canllaw bwyta'n dda.

    Am syniadau ryseitiau posibl, ewch i: Recipes Archive - Veg Power (Saesneg yn unig)
  5. Coginio o'r dechrau –Mae coginio o'r dechrau yn cynnig amrywiaeth o fanteision i'ch iechyd, eich balans banc a'r blaned. Mae'n aml yn rhatach na phrynu prydau parod, a gallwch chi addasu ryseitiau at eich chwaeth, eich cyllideb neu'ch anghenion deietegol chi eich hun. Mae hefyd yn ffordd wych o feithrin sgiliau ymarferol a magu hyder yn y gegin – p'un a ydych chi'n coginio ar eich pen eich hun neu'n rhannu gydag eraill.

    Am ryseitiau syml i chi ddechrau arni, ewch i: Easy Dinner Recipes | Good Food  (Saesneg yn unig).
Tudalennau Perthnasol