Rhwydwaith deinamig o sefydliadau ac unigolion yw Partneriaeth Bwyd RhCT, sy'n frwd ynghylch bwyd iach, cynaliadwy a hygyrch i bawb. Mae Partneriaeth Bwyd RhCT yn dwyn aelodau o grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus a busnesau bwyd ledled Cymru ynghyd.
Ein gweledigaeth yw 'Gall pob person yn Rhondda Cynon Taf gael gafael yn rhwydd ar fwyd maethlon, fforddiadwy a chynaliadwy'.
Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places) yn sefydliad sydd ar waith ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n arwain newid yn ein systemau bwyd cyfredol ac yn rhoi cymorth i rwydweithiau bwyd ledled y DU. Dyfarnwyd statws Efydd i Bartneriaeth Bwyd RhCT ym mis Tachwedd 2023, un o'r 4 lle'n unig i gyflawni hyn.
Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
Fel Lle Bwyd Cynaliadwy mae chwe mater allweddol yr ydym yn mynd i'r afael â nhw:
- Ymgymryd â dull strategol a chydweithredol o lywodraethiant o ran bwyd da
- Meithrin ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth weithredol o ran bwyd a mudiad bwyd da lleol.
- Mynd i'r afael â salwch yn ymwneud â thlodi a deiet ac ehangu mynediad at fwyd iach fforddiadwy
- Creu economi bwyd cynaliadwy sy'n fywiog, ffyniannus ac amrywiol
- Trawsnewid arlwyo a chaffael ac adnewyddu cadwyni bwyd cynaliadwy lleol
- Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy er mwyn rhoi diwedd ar wastraffu bwyd
Beth sydd ynghlwm â bod yn rhan o'r rhwydwaith?
Mae'r rhwydwaith yn cysylltu pobl ledled y DU er mwyn rhannu arfer gorau a meithrin cysylltiadau. Rydyn ni'n darparu gwybodaeth ynghylch cyllideb sydd ar gael drwy grantiau gan Gyngor RhCT a chyllidwyr eraill y gall grwpiau eu cyrchu er mwyn datblygu eu gwasanaethau bwyd.
Rydyn ni'n trefnu cyfarfodydd rhwydwaith chwarterol sy'n agored i bawb. Maen nhw'n gyfle i gael clywed am ymgyrchoedd ac achlysuron y mae'r Bartneriaeth ac aelodau'r bartneriaeth wedi'u trefnu.
Mae dau is-grŵp o Rwydwaith Tyfwyr RhCT ac is-grwpiau Pantri sy'n dwyn grwpiau â modelau tebyg ynghyd.