Fy enw i yw Rhiannon Edwards, ac ym mis Rhagfyr 2023 fe gymerais i'r awenau gan Sam Evans gan gamu i rôl Cydlynydd y prosiect Bwyd Cynaliadwy yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda fi brofiad o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd ledled y DU.
Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi bod yn ymgyfarwyddo â'r rôl ac yn dod i adnabod y grwpiau a'r unigolion arbennig sy'n rhan o Bartneriaeth Bwyd RhCT.
Mae'n fraint dechrau yn y rôl ar yr adeg y mae'r Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places) wedi dyfarnu gwobr Efydd i bartneriaeth RhCT. Mae'n destament i frwdfrydedd ac ymroddiad pawb sy'n rhan o'r bartneriaeth, fod pob unigolyn yn RhCT yn gallu cael gafael ar fwyd iach, fforddiadwy, cynaliadwy. Wrth i ni droi'n golygon at y gwobrau Arian ac Aur, un o fy mhrosiectau cyntaf yw creu strategaeth sy'n ailddychmygu'r hyn y bydd bwyd a'r gymuned yn ei olygu yn RhCT ymhen tair blynedd. Bydd pawb sy'n rhan o'r bartneriaeth bwyd yn creu'r strategaeth a'r amcanion, ac fe fydd y rhain yn adlewyrchu'r newid rydyn ni gyd am ei weld. Fy nod yw creu rhwydwaith cydgysylltiedig o bobl a lleoedd sy'n galluogi pawb yn RhCT i fwynhau bwyd a'i ddathlu, yn ogystal â chymuned sy'n
rhannu gwybodaeth a syniadau er mwyn meithrin partneriaethau cryfach. Os hoffech chi gael gwybod rhagor am y Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy ewch i wefan RhCT – Lle Bwyd Cynaliadwy