Skip to main content

Cynllun Toiledau Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn llwyddiant y cynllun mynediad at doiledau cymunedol a busnes yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, mae'n bleser gan y Cyngor gyhoeddi lansiad Cynllun Toiledau Cymunedol Rhondda Cynon Taf, a datblygiad tudalen we ryngweithiol newydd.

Tai Bach yn Rhondda Cynon Taf –  Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn deall pa mor bwysig yw hi fod cyfleusterau toiledau ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio. P'un a ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, neu'n ymweld, rydyn ni am ofalu bod modd i chi ddod o hyd i doiledau'n rhwydd.

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol a busnesau, rydyn ni wedi creu rhestr o doiledau a chyfleusterau newid sydd ar agor i drigolion ac ymwelwyr eu defnyddio.

Dewch o hyd i doiled yn RCT

Toilet stickerMae'r dudalen we newydd yn cynnwys manylion yr holl doiledau, troethfeydd a thoiledau â mannau newid sydd ar agor i drigolion eu defnyddio ledled Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y rhain trwy ddolenni Google Map.

Rydyn ni'n gobeithio y bydd datblygiadau'n parhau wrth i fwy o leoliadau ymuno â'r cynllun ac arddangos y Sticer Toiledau Cymunedol – ac os hoffai eich sefydliad gael ei gynnwys yn y cynllun, cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio carfan RhCT Gyda'n Gilydd ar rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk a bydd aelod o'r garfan yn cysylltu â chi.