Skip to main content

Gadewch i ni siarad am Faterion Cyllid

Byddwn ni hefyd yn cynnal gweithdy am gostau byw a fydd yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael i chi, a chithau'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â chymorth ychwanegol yn y gymuned. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle ar y gweithdai yma drwy RCT Source. 

Os ydych chi'n cael trafferth cyrchu RCT Source, e-bostiwch y garfan ar thesource@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01442 570040 

Salary Finance

Un o'n buddion i staff yw Salary Finance, darparwr lles ariannol sy'n cynnig benthyciadau fforddiadwy y mae modd eu had-dalu drwy eich cyflog, yn ogystal ag addysg ariannol rhad ac am ddim. Maen nhw hefyd yn cynnal cyfres o weminarau, adnoddau cynilo a gwybodaeth a chyngor ariannol. Mae modd bwrw golwg ar y rhain i gyd ar eu gwefan.

Cynllunio Ariannol

Ydych chi'n gwybod sut i ddiogelu'ch cynilion rhag treth yn y dyfodol?
Sut i ddefnyddio buddion eich gweithle i wneud i'ch arian fynd ymhellach?
Neu hyd yn oed sut y mae modd i newidiadau ariannol bach leihau eich morgais gan flynyddoedd?

Gyda hyn mewn golwg, hoffai arbenigwyr addysg ariannol 'Affinity Connect' eich gwahodd i gwrs ar-lein rhyngweithiol ar yr agweddau allweddol ar gynllunio ariannol. Yn ystod y cwrs byddwch chi'n dysgu sut i wneud y canlynol:
- Rheoli gwahanol fathau o ddyled
- Arbed a buddsoddi yn hyderus
- Cyllido yn effeithiol
- Cymryd camau tuag at ryddid ariannol
 Am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle ar y cwrs, cliciwch yma.

Wythnos Siarad am Arian- 6-10 Tachwedd 2023 

Bob blwyddyn, mae Wythnos Siarad am Arian yn ffordd o annog pobl i siarad am eu materion cyllid. Mae'r wythnos yma’n gyfle i helpu pawb i gael sgyrsiau am eu harian, boed hynny’n ddyled, pensiynau, credyd neu unrhyw bwnc arall sy’n ymwneud ag arian. 

I gael gwybod rhagor am Wythnos Siarad am Arian, cliciwch yma.

Rydyn ni'n effro i'r ffaith ei bod hi'n gallu bod yn anodd siarad am arian, yn enwedig yn ystod y cyfnodau heriol yma. Yma, mae modd i chi fwrw golwg ar rai canllawiau ar-lein ar sut i gael sgyrsiau am arian gyda'ch ffrindiaupartner, plant neu gyda’ch rhieni / neiniau a theidiau.