Skip to main content

Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod tua 1 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn trwy hunanladdiad.

Beth sy'n cymell pobl i ddod â'u bywydau i ben?

Mae meddwl am hunanladdiad yn gymhleth ac yn gallu bod yn ddychrynllyd a dryslyd. Gallan nhw amrywio o gael teimladau cyffredinol am beidio â bod eisiau bod yma mwyach, i wneud cynllun ynglŷn â sut a phryd y gall rhywun ddod â'u bywyd i ben. Yn aml, mae’n ymwneud â theimlo’n anobeithiol, ddim yn gweld dewis arall, ac/neu eisiau’r boen i ddod i ben, yn hytrach nag eisiau marw.

Does dim un rheswm penodol pam y gallai rhywun fod eisiau dod â'u bywyd i ben, ond mae rhai ffactorau risg sy'n fwy cyffredin. Mae'r rheiny'n cynnwys:

  • Ceisio dod â’u bywyd i ben neu hunan-niweidio’n flaenorol
  • Diweithdra
  • Cyflwr iechyd corfforol hirdymor
  • Byw ar eu pennau eu hunain
  • Bod yn gaeth i sylweddau
  • Problemau iechyd meddwl

Cofiwch mai ffactorau risg ydy'r rhain. Dyw'r ffaith bod unigolyn yn profi un neu ragor o'r ffactorau yma ddim yn golygu y byddan nhw'n meddwl am hunanladdiad. Yn ogystal â hyn, dydy'r rhestr yma ddim yn gyflawn.

Mae'n bwysicach nag erioed i fod yn agored a chymryd amser i siarad am ein hiechyd meddwl a sut rydyn ni'n teimlo. 

Mae modd atal hunanladdiad. Siarad a gofyn a oes angen help yw'r cam cyntaf tuag at helpu. Dechreuwch sgwrs gyda'ch ffrindiau neu'ch cydweithwyr a gofyn sut maen nhw. Os ydych chi'n cael meddyliau neu deimladau am hunanladdiad, rydyn ni'n eich annog chi i wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu, cysylltu â'r Samariaid, neu gysylltu â'r garfan argyfwng yn eich ysbyty lleol. 

Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall beth yw hunanladdiad a phwysigrwydd atal hunanladdiad.

Mae nifer o adnoddau wedi'u rhestru isod a all ein helpu a'n cynghori ni.

Gadewch i ni siarad am ymwybyddiaeth hunanladdiad

Nod y sesiwn ydy codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad trwy rannu rhywfaint o wybodaeth a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, gan gynnwys pwysigrwydd atal hunanladdiad, adnabod arwyddion a symptomau cyffredin, a dysgu ble gallwch chi gyfeirio unrhyw un a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.

Sut i gadw lle: I gadw lle, mewngofnodwch i RCT Source, ewch i adran Eich Iechyd, Diogelwch a Lles, ac yna Ymyriadau Iechyd.

Mae yna hefyd nifer o adnoddau wedi'u rhestru isod a all ein helpu a'n cynghori ni:

  • Mae MIND  yn darparu cyngor a chymorth i roi'r grym yn nwylo unrhyw berson sy'n dioddef problem iechyd meddwl. Mae’r elusen yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.
  • Mae'r Samaritans yno i'ch helpu chi i ymdopi â'ch sefyllfa. Mae'r llinell gymorth ar agor o fore gwyn tan nos bob diwrnod o’r flwyddyn. Rhif ffôn: 116 123. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth dros e-bost a thrwy eu ap, 'Samaritans self-help'. Ewch i wefan Samaritans Cymru am ragor o wybodaeth neu glicio ar y dolenni isod.
  • Vivup Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Llinell ffôn gwbl gyfrinachol – ar gael o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn ar gyfer cymorth emosiynol yn syth. Ffôn: 0800 023 9387. Mae modd i’r gwasanaeth hefyd gynnig cwnsela (dros y ffôn neu ar-lein) a chymorth ar-lein.
  • Mae modd i chi gysylltu â'r Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol drwy:
    Ffonio: 01443 494003
    E-bostio: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth, arweiniad a chyfeirio ewch i'n tudalen Source.