Nyrsys a Meddygon Iechyd Galwedigaethol
Mae pob un o'n nyrsys a meddygon iechyd galwedigaethol yn weithwyr cofrestredig ac yn arbenigo mewn rheoli iechyd a lles ein gweithwyr yn y gweithle - maen nhw yma i helpu ein gweithwyr.
Mae modd i'r gweithwyr iechyd proffesiynol yma asesu:
- Eich gallu i weithio
- Yr effaith bosibl y gall cyflwr meddygol ei chael ar eich gallu i wneud eich dyletswyddau gwaith
- Amserlen dychwelyd i'r gwaith os ydych chi’n absennol o'r gwaith oherwydd salwch
- Penderfynu a oes rhaid ystyried addasiadau yn y gweithle
- Gwneud argymhellion o ran unrhyw addasiadau yn y gweithle
Mae modd iddyn nhw eich atgyfeirio chi at wasanaethau iechyd eraill os oes angen.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod fy apwyntiad gyda'r nyrs?
Gallwch gael eich cyfeirio at un o'n meddygon neu nyrsys gan Adnoddau Dynol neu eich rheolwr, o ganlyniad i fater iechyd rydych chi’n ei ddatgelu neu oherwydd eich bod chi’n absennol oherwydd salwch.
Mae modd cynnal yr apwyntiad dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae'r apwyntiad yn para tua awr.
Mae apwyntiadau’n gwbl gyfrinachol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth ei rhannu heb eich caniatâd.
Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn dysgu rhagor am eich iechyd a lles cyffredinol.
Bydd adroddiad yn cael ei lunio trwy ddefnyddio eich atebion a gwybodaeth o'r sgwrs gyda'r gweithiwr proffesiynol. Bydd yr adroddiad yma'n cynnwys trosolwg o'ch iechyd mewn perthynas â'ch dyletswyddau gwaith. Efallai bydd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i'w hystyried er mwyn eich galluogi chi i ymgymryd â'ch dyletswyddau gwaith yn effeithiol mewn modd diogel. Mae’r rhan yma o'r adroddiad yn bwysig er mwyn sicrhau bod y garfan Adnoddau Dynol a'ch rheolwr yn deall eich anghenion chi. Sylwch, DIM OND gyda'ch caniatâd chi y bydd yr adroddiad yn cael ei rannu, a chyda'r unigolion rydych chi'n dewis ei rannu â nhw. Gallwch chi ddewis gweld yr adroddiad cyn iddo gael ei rannu ag unrhyw un arall.
Os hoffech chi drefnu apwyntiad gydag un o'n gweithwyr proffesiynol, ffoniwch yr uned Iechyd Galwedigaethol ar 01443 494003 neu e-bostiwch: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk