Skip to main content

Cyflymu Cymru - Band Llydan Ffeibr Cyflym

Bydd Trigolion a Busnesau yn Rhondda Cynon Taf ymhlith y cyntaf yng Nghymru i fanteisio ar ‘Cyflymu Cymru’, sef rhaglen arloesol gwerth miliynau o bunnau, a fydd yn dod â band llydan ffeibr i bob cwr o Gymru.
Superfast-Broadband

Band llydan ffeibr yw cenhedlaeth nesaf band llydan sy’n gyflymach o lawer, yn fwy dibynadwy ac sy’n defnyddio technoleg wahanol. Mae band llydan ffeibr yn defnyddio ceblau opteg ffeibr yn hytrach na llinellau ffôn copr band llydan traddodiadol.

Bydd hyn â’r grym i drawsnewid bywydau trigolion, wrth chwarae a gweithio, ar draws y Fwrdeistref. Yn ogystal â hynny, bydd band llydan uwchgyflym yn hybu’r economi lleol, ac yn galluogi busnesau i weithio’n fwy effeithiol mewn ffyrdd newydd a chyrraedd cwsmeriaid newydd.

Y rhaglen gyflwyno

Mae ffeibr eisoes ar gael mewn rhai ardaloedd gan gynnwys Aberdâr, Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Ffynnon Taf a Thonypandy trwy raglen cyflwyno fasnachol BT. Rydyn ni’n ailymweld â rhai o’r cyfnewidfeydd yma, yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru, ac yn defnyddio ffeibr ychwanegol mewn llawer o ardaloedd nad oes modd iddyn nhw gael ffeibr ar hyn o bryd. Bydd pob cyfnewidfa deleffôn arall sy’n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf yn cael ei huwchraddio yn rhan o raglen Cyflymu Cymru.

Mae rhai ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu gan gyfnewidfeydd teleffon Abercynon, Glynrhedynog, Hirwaun, Aberpennar, Y Porth, Trefforest, Tonyrefail ac Ynys-y-bŵl yn gallu defnyddio’r gwasanaeth newydd yma erbyn hyn, o ganlyniad i’r rhaglen yma. Mae’r cynllun cyflwyno yn yr ardaloedd yma bellach wedi’i gwblhau a bydd ardaloedd eraill sy’n cael eu gwasanaethu gan y cyfnewidfeydd yma yn gallu defnyddio band llydan ffeibr cyflym yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod wrth i ragor o gabinetau gael eu huwchraddio. Bydd cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gan gyfnewidfa deleffon Treorci yn dilyn, gan ddechrau ar ddiwedd mis Medi 2014.

Mynegi diddordeb

Os ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf, mae modd i chi fynegi diddordeb ar wefan Cyflymu Cymru. Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â chynnydd y rhaglen a byddwch chi’n derbyn e-bost unwaith i fand llydan ffeibr eich cyrraedd chi. Mae nifer o Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd sy’n cynnig y gwasanaeth, felly bydd modd i chi gymharu un yn erbyn y llall a dewis y cynnig gorau i chi.