Dowch i eistedd yn un o'n theatrau hanesyddol, Theatr y Colisëwm yn Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci. Dwylo'r bobl a gododd y theatrau hyn, sy'n cyflwyno rhaglen lawn o sioeau, perfformiadau, a ffilmiau.
Theatr unigryw o'r Tridegau yn yr arddull Art Déco yw Theatr y Colisëwm , yn sefyll yn solet ym maestrefi Aberdâr. Mae'r ganolfan brysur yma yn byrlymu â rhaglen egnïol o ddrama, comedi, cerddoriaeth, ffilmiau, ac achlysuron i blant, ysgolion, a'r gymuned.
Adeilad hardd i'w ryfeddu yw Theatr y Parc a'r Dâr, yn denu'r llygad o bob cwr o Dreorci. Mae'i rhaglen o achlysuron anhygoel yn cynnwys cerddoriaeth, ffilmiau, y ddawns, sioeau cerdd, ac achlysuron cymunedol.
Gweld manylion am achlysuron, cynyrchiadau ac amseroedd dangos ffilimiau;