Skip to main content

Mae Vision Products yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

vision-products-logo

Mae gwasanaeth Vision Products y Cyngor wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd unwaith eto, i ychwanegu at ei wobrau eraill.

Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, mae Vision Products yn arwain y ffordd ac yn annog cyflogwyr eraill i weithio i ddod yn ‘Hyderus o ran Anabledd’.

Ar ôl lansio ei wefan newydd yn 2021 sy'n arddangos yr holl waith gwych y mae'n ei wneud, mae Vision Products yn parhau â'i lwyddiant anhygoel. Cafodd Vision Products ei sefydlu ym 1993 yn rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn fusnes a gefnogir sy'n darparu ystod amrywiol o gynhyrchion a gwasanaethau achrededig. ac mae bellach wedi bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd am dair blynedd  

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am gyflogi pobl anabl ac i gydnabod y cyfleoedd a’r doniau y gallen nhw eu cynnig i’r gweithle.

Mae Vision Products yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, gan roi cyfleoedd iddyn nhw feithrin sgiliau a chymwysterau i gael gwaith cyflogedig cynaliadwy.

Meddai'rCynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Oedolion: “Rydw i’n llongyfarch pawb sy’n gysylltiedig â Vision Products ar ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd unwaith eto.

“Mae gan Vision Products weithlu anhygoel a thros y blynyddoedd, wedi sefydlu ei hun yn gadarn ac wedi dod yn fusnes uchel ei barch mewn marchnad hynod gystadleuol.

“Mae’r cwmni’n parhau i weithio gyda phobl ag anableddau, ac mae ei raglen hyfforddiant ar gyfer pobl ifainc yn cael ei chydnabod fel cynllun hynod werthfawr.

“Rydw i wrth fy modd bod Vision Products wedi cael ei chydnabod fel hyn unwaith eto wrth i’r cwmni barhau i ffynnu.”

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn wirfoddol ac wedi’i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Mae gan y cynllun dair lefel sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cyflogwyr a'r gweithlu i weithio i fod yn Hyderus o ran Anabledd.

Dewch o hyd i'r hyn sydd ar gael gan Vision Products

Wedi ei bostio ar 21/03/2022