Mae PUM prentis ifanc yn Vision Products wedi sicrhau swyddi llawn amser a rhan-amser am chwe mis arall, a hynny yn ystod y cyfnod mwyaf heriol yn hanes y cwmni (27 o flynyddoedd).
Mae'r prentisiaid, Gareth Williams, Shaun Donovan, Karl John, Josh Watts a Matthew Fear, wrth eu boddau eu bod wedi sicrhau swyddi llawn amser yn Vision Products, sy'n cael ei redeg fel busnes sy'n derbyn cymorth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Prif nod Vision Products yw darparu ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu cost-effeithiol a phriodol i gefnogi unigolion sydd ag anableddau.
Mae modd llwyddo yn hyn oherwydd darpariaeth adran gweithgynhyrchu PVCu, y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, Siopau Symudedd a'r Adran Technoleg a Gwasanaethu.
Mae Vision Products yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau ac adran Addysg y Cyngor i ddarparu cynllun prentisiaeth i bobl ifainc ag anableddau.
Mae'r cynllun 12 mis o hyd yn rhoi cyfle i unigolion sy'n gadael Ysgol Arbennig, Coleg neu'r rhai sydd heb swydd neu sy ddim yn ymgymryd â hyfforddiant, gael mynediad at waith ystyrlon â thâl. Mae swyddi'n cael eu cynnig yn nifer o adrannau Vision Products gan alluogi'r unigolion i ddilyn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, gan ennill sgiliau hanfodol a chymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi gorfodol lle bo angen.
Mae'r unigolion yn derbyn cefnogaeth ychwanegol gan 'Hyfforddwyr Cyflogaeth' sy'n gweithio’n agos gyda nhw i lunio cynllun gwaith wedi'i deilwra i'w hanghenion. Maen nhw'n darparu hyfforddiant a chefnogaeth yn y gwaith, wrth annog sgiliau rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo etheg gwaith dda.
Mae staff Vision Products hefyd yn gweithio'n agos gyda rhieni'r unigolion, gan ddarparu cefnogaeth gyfannol a chynorthwyo gyda threfniadau a chymhorthion teithio i'r gwaith, os oes angen.
Meddai'rCynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg, “Mae'n braf gweld bod Vision Products yn parhau i fuddsoddi yn ei weithlu ac wedi cynnig cyflogaeth bellach i’r pum prentis, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol.
“Mae'r cwmni'n ymfalchïo yn ei angerdd, ei broffesiynoldeb a'i ymrwymiad i'w weithwyr. Rwy'n dymuno'n dda i Shaun, Gareth, Matthew, Karl a Josh wrth iddyn nhw barhau ar daith eu gyrfaoedd.
“Mae Vision Products yn parhau i gefnogi pobl ag anableddau yn y gweithle, gan oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a bod yn arweinydd achrededig hyderus o ran anabledd.
“Dros y blynyddoedd mae wedi sefydlu ei hun yn gwmni sy'n parhau i arloesi, gan newid a datblygu ei ffordd o weithredu ar bob achlysur.”
MeddaiSandra Davies, Swyddog Cyflogaeth a Chymorth Vision Products: “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu’r pum aelod o staff ifanc i swyddi llawn amser a rhan-amser am 6 mis arall, ar ôl iddyn nhw ddangos potensial ac ymrwymiad mawr yn ystod cyfnod eu prentisiaeth.
“Mae pob un ohonyn nhw wedi gweithio trwy gyfnod heriol yn sgil pandemig COVID-19, gan ddangos hyblygrwydd mawr wrth newid eu sifftiau, ac addasu i rolau newydd. Rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi'r pum unigolyn wrth iddyn nhw ddatblygu a magu hyder er mwyn byw a gweithio'n annibynnol.
Byddwn ni'n parhau â'n cynllun prentisiaeth eto eleni ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i recriwtio rhagor o brentisiaid er mwyn cynnig ystod o gyfleoedd yn y gweithle."
Yn 2020, enillodd Vision Products Wobr Newid Bywydau Cymru yng Ngwobrau Hyderus o ran Anabledd Lletygarwch Cymru a oedd yn cydnabod ei waith fel cyflogwr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd.
Mae Vision Products yn darparu ystod amrywiol o gynhyrchion a gwasanaethau wrth ddarparu cefnogaeth ystyrlon, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i unigolion ag anableddau yn y gymuned leol.
Ewch i wefan Vision Products
Wedi ei bostio ar 18/02/2021