Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu Gwobrau Darparwyr Gofal Plant Rhagorol 2025 -2026

RCT_Childcare_Provider_Awards_2026-8382

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod wedi dathlu ymroddiad, brwdfrydedd, rhagoriaeth a gwaith caled ei sector gofal plant yng Ngwobrau Gofal Plant 2025-2026, a gafodd eu cynnal yn Y Muni, Pontypridd. Cafodd yr achlysur ei drefnu gan Garfan Gofal Plant y Cyngor. Dyma’r ail flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal a daeth yr achlysur ag ymarferwyr o bob cwr o'r fwrdeistref sirol at ei gilydd am brynhawn o gydnabyddiaeth, ysbrydoliaeth a dathlu.

Pleidleisiodd y cyhoedd dros nifer o wobrau, gan roi cyfle i deuluoedd dynnu sylw at y lleoliadau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd.

Eleni, roedd y gwobrau hefyd yn cydnabod yr heriau y mae'r sector yn parhau i'w hwynebu, gan gynnwys costau cynyddol, newidiadau yn y galw am ofal plant a niferoedd uwch o blant ag anghenion ychwanegol. Pwysleisiodd y Cyngor ei ymrwymiad i gefnogi darparwyr gofal plant, gan ddatgan mai bwriad yr achlysur oedd dangos i ymarferwyr fod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi. 

Ochr yn ochr â'r seremoni wobrwyo, roedd unigolion o leoliadau gofal plant eraill yn rhannu'u profiadau am les, cymorth ADY a gwelliannau diweddar a gafodd eu hariannu trwy'r Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar.

Enillwyr Gwobrau Gofal Plant Rhondda Cynon Taf 2026 yw:

Darparwr Gofal Plant Sesiynol y Flwyddyn:
ASD Rainbows
Ail safle:
Gofal Plant Flourish, Dolau, Gofal Plant Flourish, Llantrisant

Prentis y Flwyddyn:
Tia Walters – Little Inspirations Aman
Ail safle:
Meaha Everson (LCDP Explorers), Ash-Leigh Holder (Little Inspirations Aman)

Clwb Allgyrsiol y Flwyddyn:
Selca Schools Club  
Ail safle:
Clwb Carco Cynllun Chwarae Awel Taf, Clwb Y Ddraig, Llanilltud Faerdref

Ymarferydd Gofal Plant y Flwyddyn:
Emily Jones – Little Inspirations Aman
Ail safle:
Hannah Loder (Little Inspirations Tonyrefail), Danielle Cox (Gofal Plant Cymru, Dolau)

Meithrinfa Oriau Dydd y Flwyddyn:
Rachel's Playhouse Hirwaun
Ail safle:
Dylan's Den, Little Inspirations Aman

Gwarchodwr Plant y Flwyddyn:
Alicia Jones
Ail safle:
Trudy Richards, Gemma Gibbs

Arweinydd Gofal Plant y Flwyddyn:
Corrine Nott – Little Inspirations Aman
Ail safle:
Julie McLaughlin, Rhian Symons, Sophie Glover

Cylch Meithrin y Flwyddyn
Cylch Meithrin Llyn Y Forwyn
Ail safle:
Cylch Meithrin Evan James, Cylch Meithrin Bysedd Bach

Rhagoriaeth mewn Cymorth ADY:
ASD Rainbows
Ail safle:
Rachael’s Playhouse Hirwaun, Little Inspirations Aman

Cyfraniad Rhagorol at Les Staff
Gofal Plant Cymru, Dolau
Ail safle:
Little Inspirations Aman, Gofal Plant Cymru, YGG Tonyrefail

Darpariaeth Awyr Agored Ragorol:
Rachael's Playhouse Hirwaun
Ail safle:
Little Inspirations Aman, ASD Rainbows

Llongyfarchiadau i bob un o'r enillwyr!

Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad yn Rhondda Cynon Taf,  mae gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant, gofal plant di-dreth, lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu a llawer yn rhagor, yma.

 

Wedi ei bostio ar 29/04/2026