Skip to main content

Annog trigolion i gwblhau arolwg mewn perthynas â sut rydyn ni'n cyfathrebu â chi ynghylch rheoli perygl llifogydd

FRM comms strategy consultation CYM

Heddiw, mae'r Cyngor wedi lansio arolwg sy'n canolbwyntio ar y ffordd y mae'r Awdurdod Lleol yn rhannu gwybodaeth am berygl llifogydd. Bwriad yr arolwg yma yw casglu barn trigolion am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y mae modd i ni ei wella. Mae hyn yn cynrychioli cam gweithredu allweddol yn rhan o Strategaeth Gyfathrebu Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu Cysylltiedig.

Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, felly mae'n gyfrifol am ffynonellau llifogydd lleol o ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear. Mae ganddo ddyletswydd i ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth sy'n mynd i'r afael â rheoli'r peryglon yma. Cafodd y Strategaeth gyfredol (2024-2030) ei chyhoeddi yn 2025, a diweddarwyd y Cynllun Gweithredu cysylltiedig ym mis Gorffennaf 2026 i gwmpasu'r cyfnod rhwng 2026 a 2028. Mae modd gweld y ddau ar-lein yma.

Mae cyfathrebu â'r cyhoedd yn elfen allweddol o waith y Cyngor yn y maes yma – a hynny i wella ymwybyddiaeth trigolion o berygl llifogydd, i annog parodrwydd aelwydydd ar gyfer llifogydd, i ddatblygu cymunedau sy'n fwy gwydn rhag llifogydd, ac i gynghori a hysbysu trigolion yn ystod digwyddiadau storm.

Erbyn hyn, mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar sut y bydden nhw'n dymuno i'r Cyngor rannu gwybodaeth am y materion sy'n ymwneud â Rheoli Perygl Llifogydd. Agorodd yr arolwg yma ddydd Llun, 10 Awst a bydd modd ymateb iddo tan ddydd Llun, 21 Medi. Caiff ei gynnal ar wefan ymgysylltu Dewch i Siarad y Cyngor.

Nodwch: mae croeso i chi ofyn am gopi papur o'r arolwg trwy glicio ar y ddolen uchod. Bydd cyfle i chi wneud cais am gopi papur ar ddechrau'r dasg ymgynghori.

Bydd adborth yr arolwg yn helpu swyddogion i ddatblygu Strategaeth Gyfathrebu Rheoli Perygl Llifogydd. Dros y chwe wythnos nesaf, byddwn ni'n mynd ati i gasglu barn a phrofiadau trigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid. Mae'n ymdrin â pha mor effro yw trigolion i berygl llifogydd, pa mor barod ydyn nhw, a ph'un a yw'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu â nhw'n effeithiol.

Ar ôl llunio copi drafft, bydd y Cyngor yn ymgynghori ar y Strategaeth Gyfathrebu yn rhan o dasg ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud cyn i'r Strategaeth derfynol gael ei thrafod gan Aelodau'r Cabinet yn y dyfodol.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod cymunedau lleol wedi’u paratoi yn y modd gorau posibl ar gyfer llifogydd a bod risgiau hysbys yn cael eu lliniaru - a hynny gan ystyried bod y risgiau yma'n cynyddu o hyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Yn ystod mis Gorffennaf, cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Gweithredu Llifogydd dwy flynedd wedi'i ddiweddaru sy'n canolbwyntio ar helpu'r cymunedau hynny sy'n wynebu'r perygl mwyaf - gan osod blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod a sicrhau bod ein nodau a'n hymrwymiadau'n parhau i fod yn realistig ac yn gyraeddadwy.

“Mae ein strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol wedi'i hategu gan fuddsoddiad pwysig mewn gwaith lliniaru llifogydd - dyma raglen sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd, ac sydd wedi arwain at gyflawni dros 100 o gynlluniau mewn cymunedau ers 2020. Mae'r Cyngor yn parhau i dderbyn cymorth pwysig gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi dyrannu mwy na £4 miliwn ar draws dau o'i rhaglenni ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd ar gyfer 2026/27 - mae cyfanswm y buddsoddiad cyffredinol hyd yn oed yn uwch o ganlyniad i gyllid cyfatebol y Cyngor.

“Elfen bwysig o’n gwaith rheoli perygl llifogydd yw cyfathrebu â’r cyhoedd – boed hynny er mwyn helpu aelwydydd i ddeall eu perygl llifogydd a’r ffordd orau o baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf, yn ogystal â darparu gwybodaeth fyw a chymorth yn ystod digwyddiad storm. Nod yr arolwg a lansiwyd heddiw yw casglu barn trigolion a busnesau, yn ogystal â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid perthnasol, ynghylch sut mae'r Cyngor yn rhannu gwybodaeth o'r fath.

“Rwy’n annog pob trigolyn, busnes a grŵp sydd â diddordeb i ddweud eu dweud drwy gwblhau’r arolwg cyn 21 Medi. Bydd yr holl adborth yn cael ei drafod pan fydd swyddogion yn datblygu ac yn llunio fersiwn ddrafft o Strategaeth Gyfathrebu Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor - a fydd yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol, ac yn cael ei thrafod gan y Cabinet, ac yna'n cael ei mabwysiadu gan y Cyngor.  Bydd pob darn o adborth yn helpu ein swyddogion i ennill dealltwriaeth well o ddisgwyliadau'r cyhoedd a byddan nhw cyfrannu at ein Strategaeth Gyfathrebu wrth symud ymlaen.”

Wedi ei bostio ar 10/08/2026