Oeddech chi'n gwybod bod llawer o glybiau chwarae ac ieuenctid mynediad agored yn rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf?
Mae'r rhain yn fannau diogel a hwyliog dan oruchwyliaeth Gweithwyr Chwarae neu Weithwyr Ieuenctid cymwys sy'n cynnig ystod o weithgareddau hwyliog a diddorol i blant a phobl ifainc, gan gynnwys:
- Sesiynau chwarae a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 5 i 14 oed
- Clybiau ieuenctid i blant hŷn a phobl ifainc, 11 oed a hŷn
- Clybiau ieuenctid i blant hŷn a phobl ifainc (tua 8 i 14 oed – gwiriwch gyda'r darparwr)
- Sesiynau Chwarae Addasu sy’n rhoi cyfle i blant, pobl ifainc a'u teuluoedd gymryd rhan mewn sesiynau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol
- Chwaraeon, gemau a gweithgareddau creadigol
- Cyfleoedd i gymdeithasu, dysgu a chyfle i leisio eu barn
Mae pob sesiwn wedi'i chynllunio i gefnogi lles, annog perthnasoedd cadarnhaol a rhoi lleoedd diogel i blant a phobl ifainc dreulio eu hamser yn eu cymunedau lleol.
Dysgwch ragor drwy wylio ein fideos byr:
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (11 oed a hŷn)
Gwasanaethau Chwarae (5 oed a hŷn)
Dewch o hyd i sesiynau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi gan ddefnyddio drwy glicio ar y dolenni isod:
Mae rhagor o fanylion am glybiau ieuenctid ar gael yma
Mae modd i Rieni a Gwarcheidwaid ddysgu rhagor am Chwarae Mynediad Agored yma
Sesiynau Chwarae Addasu sy’n rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd gymryd rhan mewn sesiynau a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol
Cysylltwch â'ch darparwr lleol gan ddefnyddio'r wybodaeth yn y dolenni uchod, i gael gwybod rhagor am bryd mae sesiynau'n cael eu cynnal.
Wrth baratoi ar gyfer Gwobr Clwb Ieuenctid y Flwyddyn, a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod Achlysur Dathlu'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, derbyniodd y gwasanaeth fwy na250 o ymatebion gan rieni/cynhalwyr, pobl ifainc ac aelodau’r gymuned, gyda phawb yn awyddus i rannu eu profiadau a’u barn. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi'r adborth hynod gadarnhaol. Gwnaeth yr adborth atgyfnerthu'r gwaith hanfodol y mae'r darpariaethau yma'n ei gyflawni yn ein cymunedau lleol, yn ogystal â'r effaith sylweddol a pharhaol y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl ifainc. Mae hi'n amlwg bod mynychu clwb ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifainc, eu teuluoedd a'u hathrawon hefyd. Tynnodd yr ymatebion sylw at themâu sy'n codi dro ar ôl tro, megis:
Gwella hyder
Gwneud ffrindiau newydd
Perthyn
Datblygiad Personol
Cysylltu â'r Gymuned
Dyfodol Cadarnhaol
Bwriwch olwg ar yr adborth isod:
Meithrin Hyder
“Mae clybiau ieuenctid wedi newid bywydau cynifer o bobl ifainc, gan gynnwys fy un i. Mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae'r clwb yn rhoi cyfle i ni ddysgu sgiliau newydd, meithrin hyder, gwneud ffrindiau am oes, a dweud ein dweud.”- Person ifanc
“Mae’r clwb ieuenctid yma wedi cael effaith sylweddol ar fy mywyd. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac mae hefyd wedi fy helpu i ddarganfod pethau rwy’n gallu eu gwneud yn dda.”— Person ifanc
“Rhoddodd y clwb ieuenctid yma lais a hyder i fy merch sydd wedi cael ei bwlio ers 5 mlynedd.”— Rhiant/Cynhaliwr
Rhoi Cymorth a'r Ymdeimlad o Berthyn
“Newidiodd y garfan fy mywyd. Roeddwn i'n arfer mynd i'r clwb ieuenctid ar fy mhen fy hun yn drist ac yn bryderus iawn. Roeddwn i'n gadael pob sesiwn yn teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi a bod rhywun yn gwrando arna i.”— Person ifanc
“Mae pawb yn teimlo eu bod nhw'n cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.”— Person ifanc
Rhoi Llais i Bobl Ifainc
“Mae’r clwb yn rhoi cyfleoedd i ni ddysgu sgiliau newydd, meithrin hyder, gwneud ffrindiau am oes, a dweud ein dweud.”— Person ifanc
Helpu Teuluoedd i Ffynnu
“Mae’r cyfleuster yma wedi achub fy mab rhag bod ar ben ei hun yn llwyr. Mae e wedi gwneud cynnydd gwych oherwydd y clwb yma.”— Rhiant/Cynhaliwr
“Mae’r clwb yn darparu cymorth, gofal ac arweiniad. Mae'r criw bob amser yn mynd y tu hwnt i'r galw.”— Rhiant/Cynhaliwr
Effaith Gadarnhaol ar y Gymuned
“Mae’r clwb ieuenctid yma wedi helpu’r bobl ifainc mwyaf difreintiedig ac anodd eu cyrraedd i ailymgysylltu â’u cymuned a’u cyfoedion.”— Gweithiwr Cymdeithasol
“Rydw i wedi gweld teuluoedd yn elwa ar y clwb ieuenctid yma yn ogystal â'r gwaith cadarnhaol sy’n digwydd yno.”— Gweithiwr Cymdeithasol
Helpu Pobl Ifainc i Lwyddo
“Mae’r plant yma yn ffynnu ac wrth eu bodd yn mynd i’r Clwb Ieuenctid.”— Staff yr Ysgol
Os ydych chi'n berson ifainc yn Rhondda Cynon Taf neu'n rhiant/cynhaliwr sy'n teimlo y byddai eich plentyn elwa ar fynychu clwb ieuenctid, mae modd i chi ddod o hyd i'ch clwb ieuenctid lleol yma.
Does dim angen cadw lle na chael eich cyfeirio ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau yma. Mae'r ddarpariaeth wedi'i staffio i niferoedd penodol, felly bydd mynediad ar sail cyntaf i'r felin.
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:
Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw lleoedd diogel a chroesawgar i blant a phobl ifainc - llefydd lle mae modd iddyn nhw gael hwyl, meithrin hyder, gwneud ffrindiau a theimlo'n rhan o'u cymuned leol. Drwy ein sesiynau chwarae rhad ac am ddim a'n sesiynau ieuenctid ledled Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n rhoi cyfle i bobl ifainc o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, datblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gymorth gan Weithwyr Chwarae a Gweithwyr Ieuenctid ymroddedig a phrofiadol.
Mae'r adborth hynod gadarnhaol gan bobl ifainc, rhieni, cynhalwyr, ysgolion a phartneriaid cymunedol yn tynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol y mae'r gwasanaethau yma'n ei wneud. Dro ar ôl tro, rydyn ni'n clywed sut mae mynychu'r sesiynau yma wedi helpu pobl ifainc i feithrin hyder, gwneud ffrindiau am oes, goresgyn heriau a theimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.
Byddwn i’n annog teuluoedd i ddysgu rhagor am yr ystod o gyfleoedd gwych sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn eu hardal nhw. P'un a yw'ch plentyn yn mynychu sesiwn chwarae, clwb ieuenctid neu sesiynau Chwarae Addasu arbenigol, mae'r gwasanaethau yma'n helpu i greu profiadau cadarnhaol, cefnogi lles a galluogi plant a phobl ifainc i ffynnu.
Wedi ei bostio ar 22/07/2026