Skip to main content

Plac Glas i Anrhydeddu'r Arwr Rhyfel a Phêl-Droediwr o Gwm Rhondda, Dai Collier

Dai Collier

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi y bydd Plac Glas yn cael ei ddadorchuddio i anrhydeddu David "Dai" Collier (1894-1972), milwr a gafodd fedalau yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf a phêl-droediwr mawr ei barch; mae ei stori'n adlewyrchu dewrder a chydnerthedd cenhedlaeth.

Bydd y seremoni dadorchuddio'n digwydd ddydd Gwener 10 Gorffennaf am 2pm ar Gae Athletau Canol Cwm Rhondda, Tonypandy. Rydyn ni falch iawn o gael gwahodd aelodau'r cyhoedd, trigolion ac ymwelwyr i'r achlysur; cyfle i dalu teyrnged i un o feibion mwyaf nodedig Cwm Rhondda.

Wedi ei eni yn Llwynypia, fe weithiodd Dai Collier yng Nglofa Morgannwg ac fe brofodd galedi yn ifanc. Yn ystod streic 1910, cafodd ei daro gan fricsen a gafodd ei thaflu drwy ffenestr cartref ei deulu – achosodd hyn graith oes iddo. Er hyn, fe ddaeth yn enwog yn sgil ei dalent pêl-droed gyda thîm Athletau Canol Cwm Rhondda, neu "The Mushrooms", fel roedden nhw'n cael eu galw, cyn enlistio i wasanaethu ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe enlistiodd Collier yn yr unfed Bataliwn ar bymtheg (Dinas Caerdydd) ac fe laniodd yn Ffrainc fis Rhagfyr 1915. Fis Mehefin 1916, fe ddangosodd ddewrder aruthrol wrth achub dau gydfilwr oedd wedi'u hanafu, o dir neb, tra roedd y gelyn yn ymosod; yn sgil y weithred yma fe gafodd Fedal Filwrol.

Ychydig amser wedi hynny, roedd Collier yn rhan o'r 38fed Garfan (Gymreig) yn ystod Brwydr Coed Mametz. Dyma un o'r ymgysylltiadau mwyaf y bu i'r milwyr Cymreig fod yn rhan ohono yn ystod Brwydr y Somme, a lle collodd y nifer uchaf eu bywydau. Rhwng 7 a 12 Gorffennaf 1916, fe wynebodd y milwyr saethu di-baid o du gynnau peiriant a magnelwyr trwm, wrth iddyn nhw wneud eu ffordd i mewn i'r coetir trwchus oedd wedi'i amddiffyn yn drwm gan luoedd yr Almaen.  Er y dewrder aruthrol, a'r llwyddiant yn y pendraw o ran sicrhau'r lleoliad, roedd y gost yn erchyll, gyda mwy na 4,000 o filwyr Cymreig wedi'u lladd neu eu hanafu. Cafodd Collier ei hun ei anafu gan shrapnel yn ymosodiad y Somme ac fe dreuliodd amser yn adfer mewn ysbyty yn Lerpwl.

Wedi iddo adfer, fe ddychwelodd Collier at chwarae pêl-droed, gan chwarae unwaith yn rhagor i dîm Athletwyr Canol Cwm Rhondda, a hynny yn ystod un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y clwb. Yn ddiweddarach fe ymunodd â thîm Grimsby Town, lle’r enillodd ei unig gap rhyngwladol dros Gymru, gan sgorio mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn yr Alban. Yn y diwedd fe ddychwelodd adref ac fe orffennodd ei yrfa chwarae pêl-droed gyda Thref y Barri.

Y tu hwnt i'w gyflawniadau, roedd pobl yn adnabod Dai Collier am ei hynawsedd, mor driw yr oedd, a'i ddewrder tawel. Fe weithiodd yn ddiweddarach yn osodwr trydan yn Sant Athan ac roedd ganddo gysylltiad dwfn â'i wreiddiau hyd nes iddo farw fis Tachwedd 1972 yn 78 mlwydd oed.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Mae stori Dai Collier yn un o ddewrder, talent a hynawsedd aruthrol. O feysydd glo Llwynypia i feysydd brwydr y Somme a chaeau pêl-droed Cymru a thu hwnt, roedd yn ymgorffori cryfder ac anian Cwm Rhondda.

Ddylai ei ddewrder yng Nghoed Mametz a'i wasanaeth yn ystod un o gyfnodau tywyllaf ein hanes fyth fynd yn angof. Mae'r plac glas yma'n fodd o ofalu y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cydnabod ei aberth a'i gyflawniadau, ac, yn dod i ddeall y cyfraniad wnaeth cynifer o bobl o'n cymunedau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Byddem yn falch iawn o gael cwmni trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn yr achlysur dadorchuddio yma er mwyn dathlu bywyd arwr lleol gwirioneddol.

Bydd y Plac Glas yma'n deyrnged arhosol i hanes Dai Collier  –  bydd yn fodd o anrhydeddu nid yn unig ei gyflawniadau personol ond hefyd aberth cenhedlaeth a gafodd ei llywio gan ryfel a chaledi.

Croeso i bawb.

Wedi ei bostio ar 30/06/2026