Bydd gwaith cynnal a chadw pwysig yn cael ei gynnal ar safle tomen Craig y Dyffryn yn Aberpennar o'r wythnos nesaf ymlaen, gan y bydd gwaith clirio llystyfiant yn lleihau perygl rhwystrau i system ddraenio'r safle.
Y llynedd, elwodd y domen, sydd wedi'i lleoli oddi ar yr A4059 ger Ysgol Gyfun Aberpennar, ar gynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a greodd nifer o lwybrau mynediad ar y safle.
Mae'r Cyngor bellach wedi sicrhau cyllid pellach trwy'r Grant Diogelwch Tomenni Glo yn 2026/27 ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill, a fydd yn dechrau o ddydd Llun 15 Mehefin, ac yn para hyd at bythefnos.
Bydd gwaith clirio llystyfiant o sianeli draenio a llwybrau cynnal a chadw yn helpu arolygiadau rheolaidd o'r domen, yn helpu systemau draenio i weithio'n effeithiol ac yn lleihau perygl rhwystrau. Bydd y gwaith yma hefyd yn helpu i gynnal a chadw seilwaith a gwella bioamrywiaeth y safle, gan helpu i greu a chadw coridorau cynefinoedd agored ar gyfer bywyd gwyllt.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, gyda staff yn cael mynediad i'r domen o Heol y Felin.
Er nad oes disgwyl i'r gwaith darfu llawer, mae'n bosibl y bydd cynnydd y nifer y cerbydau adeiladu yn lleol yn ystod y cynllun. Fodd bynnag, bydd gweithgareddau o'r fath yn digwydd y tu allan i gyfnodau gollwng a chasglu plant o'r ysgol bob bore a phrynhawn.
Bydd arwyddion diogelwch tomenni a bioamrywiaeth yn cael eu gosod er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwaith.
Mae'r Cyngor wedi derbyn £13.7 miliwn trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru yn 2026/27, gan alluogi'n Carfan Diogelwch Tomenni i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf eleni – wrth hefyd ddatblygu prosiectau diogelwch tomenni mwy. Mae hyn yn dilyn £11.49 miliwn a gafodd ei ddyrannu trwy'r grant y llynedd.
Diolch ymlaen llaw i gymuned Aberpennar am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd ar y gweill.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 11/06/2026