Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gosod diffibrilwyr achub bywyd ar bob safle ysgol ledled y Fwrdeistref Sirol.
Lle mae hynny'n briodol, bydd y diffibrilwyr hefyd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned ehangach 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos; bydd hyn yn helpu i wella cyfleoedd i'r cyhoedd gael gafael ar yr offer argyfwng.
Yr hyn sy'n sail i'r dull yw gofalu bod gyda phob cymuned fodd i gael gafael ar offer y byddan nhw o bosibl yn achub bywyd. Er bod 570 diffibriliwr wedi'i osod eisoes ledled Rhondda Cynon Taf, mae rhai ardaloedd lle mae mynediad at ddifibriliwr wedi'i gyfyngu, yn enwedig felly y tu allan i oriau agor arferol. Gyda 113 safle ysgol wedi'i leoli mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, mae ysgolion mewn mannau da o ran helpu i ychwanegu at y rhwydwaith lleol yma.
Rhan o'r darlun yn unig yw gosod diffibrilwyr. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn ogystal ag elusennau a sefydliadau cymunedol, er mwyn cynorthwyo â'r gwaith o osod yr offer yma, eu cofrestru, cynnal a chadw a'u monitro. Y nod yw gofalu bod yr offer nid yn unig mewn lleoliad da, ond y byddan nhw wedi'u cynnal a'u cadw'n briodol, yn rhwydd eu cyrraedd ac yn barod i'w defnyddio pe bai angen.
Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor hefyd am gryfhau ymwybyddiaeth a hyfforddiant, gan hybu dealltwriaeth ehangach ynghylch adfywio cardio-pwlmonaidd a defnyddio diffibrilwyr mewn modd diogel ac effeithlon mewn argyfwng.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:
Rydw i'n hynod falch bod y cynigion yma wedi'u cytuno arnyn nhw, oherwydd mae gyda nhw'r potensial i achub bywydau, yn wirioneddol felly, ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae ysgolion wrth galon ein cymunedau, a thrwy ehangu mynediad at ddifibrilwyr ledled safleoedd ysgolion, mae modd i ni helpu i wella'r ddarpariaeth leol a rhoi rhagor o dawelwch meddwl i bobl bod yr offer yma fwyfwy gerllaw, pe byddai'r angen amdanyn nhw'n codi.
Gwneud pethau mewn modd ymarferol, ystyriol, ac ar sail partneriaeth sydd dan sylw yma. Rydyn ni am ofalu bod yr offer priodol ar bob safle ysgol, a bod modd rhoi mynediad cyhoeddus atyn nhw lle bynnag bo hynny'n bosibl; bydd cynnal a chadw, hyfforddiant a dealltwriaeth yn y gymuned yn fodd o atgyfnerthu hyn oll.
Mae'n gam gwirioneddol gadarnhaol ymlaen, ac yn un rydw i'n gwybod y bydd ysgolion, teuluoedd a thrigolion ledled Rhondda Cynon Taf yn ei groesawu.
Yn rhan o'r cynlluniau mae; darparu diffibriliwr awtomataidd allanol ym mhob lleoliad addysgol, nodi lleoliadau cymunedol canolog amgen mewn achosion pan nad oes modd rhoi mynediad cyhoeddus i leoliad ysgol, atgyfnerthu trefniadau cynnal a chadw, hyrwyddo cofrestru ar y gronfa ddata genedlaethol, ac annog rhoi sylw i'r ddarpariaeth o ran diffibrilwyr mewn cynlluniau ysgolion ac yn isadeiledd y gymuned yn ehangach, ar gyfer y dyfodol.
Bydd y gwaith yn mynd rhagddo nawr mewn camau, a bydd i waith partneriaeth rôl bwysig o hyd o ran cyflawni hyn oll.
Wedi ei bostio ar 23/03/2026