Skip to main content

Fferm Solar Coedelái yn dathlu ennill dwy wobr mewn gwobrau cenedlaethol

colar farm awards

Mae Fferm Solar Coed-elái Rhondda Cynon Taf wedi cyflawni cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ennill dwy wobr fawreddog yn y diwydiant a sicrhau ei statws fel prosiect ynni adnewyddadwy blaenllaw yng Nghymru.

Mae'r prosiect wedi cael ei enwi'n Brosiect Ynni Adnewyddadwy'r Flwyddyn yng Ngwobrau Ynni Cenedlaethol 2026 yn Llundain. Dyma gyflawniad sy'n fwy arwyddocaol o ystyried cryfder a maint y gystadleuaeth.

Mae'r cyflawniad diweddaraf yma'n dilyn llwyddiant ym mis Mawrth, pan gafodd Fferm Solar Coed-elái ei henwi'n Brosiect Ynni Glân y Flwyddyn yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd Cenedlaethol ym Mryste.

Wedi'i darparu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Stantec a Vital Energi, mae Fferm Solar Coed-elái yn chwarae rhan hanfodol yn strategaeth ddatgarboneiddio'r Cyngor, gan allforio tua 5MW o drydan glân i'r grid cenedlaethol. Yn ogystal â hyn, mae'r prosiect yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol trwy gytundeb prynu pŵer arloesol, gan gyflenwi Ysbyty Brenhinol Morgannwg ag 1MW o drydan carbon isel yn uniongyrchol. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau yn y sector gofal iechyd wrth ddarparu ffynhonnell ddibynadwy o ynni cynaliadwy.

Mae llwyddiant y ddwy wobr yn tanlinellu pwysigrwydd y prosiect yn lleol, ac fel model ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol ledled y wlad.

Meddai'r Cynghorydd Ros Davis, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar faterion Adnoddau, Cwsmeriaid ac Ynni: “Rydyn ni'n falch o weld Fferm Solar Coed-elái yn cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol. Mae ennill dwy wobr fawr yn adlewyrchu'n hymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ac arloesedd. Mae'r prosiect yma'n gwneud gwir wahaniaeth. Mae'n lleihau allyriadau carbon. Mae hefyd yn darparu cyflenwad ynni dibynadwy i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Da iawn i bawb sydd wedi chwarae rhan. Dyma gyflawniad rhagorol.”

Mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu ynni adnewyddadwy a seilwaith carbon isel, gan gefnogi ei ymrwymiad ehangach i gyrraedd ei dargedau carbon niwtral erbyn 2030.

Wedi ei bostio ar 19/05/2026