Cyn bo hir, bydd modd i drigolion gymryd rhan yng Ngham Un ymgynghoriad blynyddol y Cyngor ar Gyllideb y flwyddyn nesaf (2027/28). Bydd cam yma'r broses yn ystod yr hydref yn canolbwyntio ar flaenoriaethau buddsoddi, a bydd trigolion yn gallu cymryd rhan ar-lein, drwy'r post, ac mewn achlysuron lleol wyneb yn wyneb.
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn defnyddio dull dau gam o ymgynghori â thrigolion ar Gyllideb y flwyddyn ganlynol. Bydd safbwyntiau a sylwadau yn helpu uwch swyddogion a'r Cabinet i wneud penderfyniadau gwybodus wrth bennu Cyllideb 2027/28 erbyn mis Mawrth 2027. Bydd Cam Un yn ymwneud â sut mae'r Cyngor yn penderfynu ar ei flaenoriaethau wrth fuddsoddi, ynghyd â ffactorau allweddol eraill fel lefelau Treth y Cyngor ac arbedion o ran effeithlonrwydd. Yna, bydd Cam Dau yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd, gan ganolbwyntio ar strategaeth Gyllideb ddrafft a fydd yn cael ei dwyn gerbron y Cyngor yn dilyn setliad Llywodraeth Cymru.
Mae'n bleser gennyn ni gadarnhau y bydd ymgynghoriad Cam Un ar gyfer Cyllideb 2027/28 yn cael ei lansio yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 2 Tachwedd. Bydd yn para am chwe wythnos, hyd at ganol mis Rhagfyr 2026.
Gwefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT fydd prif wefan yr ymgynghoriad. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth allweddol am gyd-destun a chefndir y Gyllideb, ynghyd ag arolwg sy'n rhoi cyfle i bobl gyflwyno adborth. Bydd modd cwblhau'r arolwg ar-lein, ar ddogfen i'w hargraffu, ar ffurf hawdd ei darllen (dogfen i'w hargraffu), neu drwy'r post (ar gais). Yn seiliedig ar adborth y cyhoedd, mae fersiwn newydd a gwell ein hefelychydd Cyllideb rhyngweithiol ar gael eto, sy’n gofyn i drigolion ddewis y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw gan ddefnyddio graddfa symudol.
Yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn ni'n defnyddio ein cyfrifon y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r broses ac annog ymgysylltu, a byddwn ni'n anfon negeseuon e-bost at randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Panel y Dinasyddion, Cynghorwyr lleol a staff.
Mae modd i drigolion hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros y ffôn drwy ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor (01443 425014), lle byddwn ni'n cynnig apwyntiadau unigol dros y ffôn. Mae modd trefnu anfon arolygon papur a gwybodaeth dros y ffôn hefyd, ac mae cyfeiriad Rhadbost ar gael er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad trwy'r post. Defnyddiwch Rhadbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.
Byddwn ni'n cynnal nifer o achlysuron ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn cymunedau hefyd er mwyn amlinellu dull y Gyllideb, ateb cwestiynau, a chasglu barn a safbwyntiau trigolion. Bydd modd i drigolion siarad yn uniongyrchol â swyddogion am wasanaethau'r Cyngor yn yr achlysuron yma. Pan fydd y dyddiadau a'r lleoliadau wedi'u cadarnhau, byddwn ni'n eu rhannu ar ein tudalen Dewch i Siarad ac ar ein cyfryngau cymdeithasolByddwn ni hefyd yn ymgysylltu ar wahân â grwpiau cymunedol a grwpiau’r Cyngor, fel Grŵp Ymgynghori'r Bobl Hŷn, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Cydbwyllgor Ymgynghorol, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a’r Pwyllgor
Cyd-gysylltu â'r Gymuned. Bydd swyddogion hefyd yn ymweld â rhai o'r ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid yn Rhondda Cynon Taf i ymgysylltu â'n pobl ifainc.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Bydd y Cyngor yn dilyn ei ddull ymgynghori ar y Gyllideb llwyddiannus unwaith eto, wrth i ni geisio cyrraedd cynifer o bobl â phosibl a helpu i lywio penderfyniadau terfynol yr uwch swyddogion a’r Cabinet yn y ffordd orau bosibl. Yr hydref yma, byddwn ni'n gofyn i drigolion am ffactorau fel blaenoriaethau buddsoddi, cyn i ni ganolbwyntio ar y strategaeth ddrafft yn y flwyddyn newydd, a hynny ar ôl setliad dros dro Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn trigolion mewn dau gam allweddol, felly.
“Mae miloedd o ymatebion i’n hymgynghoriadau ar y Gyllideb wedi dod i law yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n profi bod gan bobl ddiddordeb ynddi ac maen nhw eisiau rhannu eu barn ar benderfyniadau pwysig. Er ein bod ni'n defnyddio fformiwla gyfarwydd, mae'r swyddogion bob amser yn trin a thrafod sut mae modd i ni wneud newidiadau er mwyn cyrraedd mwy o drigolion, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae strategaeth cymryd rhan Dewch i Siarad am Eich Barn yn ei hail flwyddyn, ac yn ceisio cyfleoedd i ymgysylltu â mwy fyth o'n trigolion yn ein cymunedau, ac eleni byddwn ni'n cynnal mwy o achlysuron wyneb yn wyneb eleni nag erioed o'r blaen.
“Rydyn ni'n gwybod bod llywodraeth leol yn parhau i fynd trwy gyfnod heriol o ran cyllid, a bod pob Cyngor yng Nghymru yn debygol o wynebu diffyg yn y Gyllideb unwaith eto wrth bennu eu Cyllideb ar gyfer 2027/28 fis Mawrth nesaf. Fel i ni egluro yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a gafodd ei rannu gyda'r Cabinet ym mis Medi 2026, bydd maint y diffyg yn y Gyllideb yn dod yn fwy amlwg yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth y DU ac yna setliad Llywodraeth Cymru, a ddylai ein cyrraedd ym mis Tachwedd.
“Rwy’n annog trigolion sydd â diddordeb i gymryd rhan yng Ngham Un yr ymgynghoriad pan fydd yn agor yr wythnos nesaf, sef yr wythnos sy’n dechrau 2 Tachwedd. Byddwn ni'n hyrwyddo'r broses ar wefan Dewch i Siarad ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Bydd modd cymryd rhan mewn arolwg ar-lein, a bydd ein hefelychydd Cyllideb rhyngweithiol yn ôl eleni ar ei newydd wedd. Byddwn ni hefyd yn cyhoeddi manylion ein hachlysuron wyneb yn wyneb yn y man, pan fyddwn ni wedi cadarnhau'r manylion. Diolch ymlaen llaw i bawb am gymryd rhan.”
Wedi ei bostio ar 30/10/2026